Archifau Powys wedi derbyn arian gan yr Ymddiriedolaeth Llawysgrifau Cadwraeth Cenedlaethol (NMCT)

16 Ion 2024

Ym mis Tachwedd 2023, Archifau Powys yn ffodus o dderbyn y swm o £2400 gan yr Ymddiriedolaeth Llawysgrifau Cadwraeth Cenedlaethol (NMCT) ar gyfer cadwraeth tirlyfr yn manylu ar hawddfreintiau tir a’r hawliau a gafwyd gan Gorfforaeth Birmingham mewn cysylltiad ag adeiladu’r ddyfrbont fel rhan o gynllun Cwm Elan. Mae’r tirlyfr sy’n dyddio rhwng 1893 a 1904, yn ffurfio rhan o Gasgliad Cwm Elan, Awdurdod Dŵr Cymru, a roddwyd i archifau Powys ar ddiwedd y 1980au.

Rydym yn ddiolchgar i’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol am ariannu cadwraeth y tirlyfr, a fydd nid yn unig yn atal difrod pellach i’r eitem ond fydd hefyd yn cynyddu ei hygyrchedd gan ei gwneud yn hawdd ei gynhyrchu, i greu mynegai (i wella ein cofnod catalog), a’i ddigideiddio.