Man Gwaith a Hwb Digidol Llyfrgel Tref-y-clawdd

Mae gan Lyfrgell Tref-y-clawdd 4 desg waith ag offer da yn yr Ystafell Gydweithio eang, yn ogystal â Phod Cyfarfod bach.

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau cymunedol ym Mhowys? Neu ddesg waith unigol mewn man a rennir neu fan preifat?

Mae gan Lyfrgell Tref-y-clawdd  4  desg waith ag offer da yn yr Ystafell Gydweithio eang, yn ogystal â Phod Cyfarfod bach. Mae mannau gwaith Llyfrgell Tref-y-clawdd i gyd yn rhad ac am ddim i’w defnyddio.

The library is co-located with the Community Centre, where you can also find a range of affordable and flexible rooms and event space for for hire. Visit the Comm website to find out more

Mae offer ychwanegol ar gael, gan gynnwys gliniadur, gwe-gamera a Sgrin Smart  65” CleverTouch ryngweithiol ar stand symudol y gellir ei addasu i uchder – mae’n wych ar gyfer clybiau, cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Mae Wifi am ddim ar gael ym mhob rhan o’r adeilad, ynghyd ag argraffu Wifi

I wirio argaeledd ac i archebu lle, ffoniwch y llyfrgell ar 01547 528778 neu e-bostiwch ni. Gwiriwch ein horiau agor a’n manylion cyswllt yma

Ystafell Gydweithio’r Hwb Digidol

Mae’r Ystafell Cydweithio yn olau ac yn eang, gyda 4 desg cydweithio llawn offer at ddefnydd unigol.

Gellir archebu dwy o’r gweithfannau ymlaen llaw, gyda’r ddwy arall ar gael ar sail galw heibio.

Ar rai adegau efallai y bydd modd archebu’r ystafell gyfan – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae cyfleusterau gwneud te/coffi ar gael yn yr ystafell

Mae Sgrin Glyfar fawr sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd ar gael ar gais, ynghyd ag amrywiaeth o offer ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hyfforddi – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Mae llogi ystafell a desg yn rhad ac am ddim.

Pod Cyfarfod

Mae’r Pod Cyfarfod yn fan breifat ar gyfer 1 neu  2 o bobl, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd 1:1 neu ar-lein, neu fel man tawel ar gyfer gweithio neu astudio.

Ni chodir tâl am ddefnyddio’r Pod Cyfarfod.

Cyfleusterau Ychwanegol

65” CleverTouch Sgrin Glyfar ar stand symudol

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Mae sgrin CleverTouch yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau clwb, cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi.

Gallwch ei ddefnyddio i ffrydio fideos, ymuno neu gyflwyno cyfarfodydd ar-lein, ac mae’n wych ar gyfer cyrsiau hyfforddi hefyd

Mae’r sgrin gyffwrdd fawr gyda’r modd o gael mynediad i’r Rhyngrwyd, gyda Windows PC, a gallwch hefyd gysylltu gliniadur neu rannu cynnwys o ffôn clyfar neu lechen.

Os ydych yn bwriadu defnyddio’r Clever Touch ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, gofynnwch am gamera/meicroffon Obsbot ar wahân pan fyddwch yn archebu.

Mae’r sgrin ar stand symudol sydd â modd o addasu’r uchder.

Llogi CleverTouch:  £20 am hanner diwrnod, i’w archebu

Gwe-gamera Obsbot ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

Gwe-gamera diffiniad uchel   (4K)a meicroffon gyda golygfa 90gradd ac awto-olrhain dewisol.

Da ar gyfer recordio cyflwyniadau fideo neu gyflwyno mewn cyfarfodydd – gellir gosod yr Obsbot i olrhain a dilyn y prif siaradwr.  Hefyd mae’n dda i ymuno â chyfarfodydd hybrid bach (hy  3 neu 4o bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein) oherwydd golygfa  90 gradd ac ansawdd y meicroffon.

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar.

Wedi’i gynnwys am ddim fel rhan o logi unrhyw ystafell, mae yma nifer o Obsbots ar gael i’w benthyg yn wythnosol:  £10 yr wythnos, rhaid eu harchebu o flaen llaw.

Bar Fideo Studio X30 ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Bar Fideo popeth-mewn-un cryno diffiniad uchel (4K) gyda gwe-gamera a meicroffon. Yn fwy na gwe-gamera Obsbot, mae gan y Studio X30 olygfa 120 gradd ac mae’n fframio grwpiau yn awtomatig.

Mae’r Studio X30 yn dda ar gyfer ymuno â chyfarfodydd hybrid maint canolig (hy hyd at 6 bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein). Bydd yn fframio grwpiau yn awtomatig ac mae’n cynnig ystod clywed 15troedfedd gyda’r meicroffon, sy’n cynnig profiad cyfarfod proffesiynol.

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar.

Rhaid archebu o leiaf wythnos ymlaen llaw – gofynnwch am Far Fideo Studio X30 wrth archebu ystafell. £20 am hanner diwrnod.

Gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn uni

Mae gliniadur ar gael i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn rhad ac am ddim.


Rydym hefyd yn llogi setiau o 5 neu 10 gliniadur ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Mae setiau gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig a rhaid eu harchebu o leiaf wythnos ymlaen llaw, a chyn belled ymlaen llaw â phosib i sicrhau argaeledd.  £50 y dydd am hyd at  5 gliniadur; £100 y dydd am rhwng  5 a 10 gliniadu

Benthyciadau DigiTech: iPads, Chromebooks, gwe-gamerâu a thaflunwyr – benthyg a mynd adref gyda chi

Rydym hefyd yn cynnig offer i chi ei fenthyg a mynd adref gyda chi, gan gynnwys iPad, chromebooks, gwe-gamerâu, a chitiau taflunydd digidol. Ewch i’n tudalen Benthyciadau DigiTech am ragor o wybodaeth.