Llyfrgell Ystradgynlais Ystafelloedd Cyfarfod a Hwb Ddigidol

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau cymunedol ym Mhowys? Neu ddesg waith unigol mewn man a rennir neu fan preifat?

Mae gan Lyfrgell Ystradgynlais  3 ystafell gyfarfod ag offer da i chi eu llogi, yn ogystal â desgiau gwaith ac astudio unigol yn yr ystafell gydweithio. Rydym hefyd yn cynnig Pod Cyfarfod bach sy’n addas ar gyfer hyd at  4 o bobl.

Mae offer ychwanegol ar gael, gan gynnwys sgrin glyfar fawr wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd, gwe-gamera a gliniadur – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Mae Wifi am ddim ar gael ym mhob rhan o’r adeilad, ynghyd ag argraffu Wifi

I wirio argaeledd ac i archebu lle, ffoniwch y llyfrgell ar 01639 845353 neu  e-bostiwch ni. Gwiriwch ein horiau agor a’n manylion cyswllt yma

Ystafell Cyfarfod Tawe

Mae Tawe yn ystafell o faint da ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau bach. Gall ddal hyd at 20 o bobl.

Gellir trefnu’r ystafell gyda seddau a darllenfa fel y gwelir yn y llun, neu gyda hyd at  3 bwrdd o amgylch yr ochrau neu yng nghanol yr ystafell.

Mae Sgrin Glyfar fawr sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd ar gael ar gais, ynghyd ag amrywiaeth o offer ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hyfforddi – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Prisiau Tawe

Gwirfoddol/Addysgiadol:  £15 yr awr a  £30 am archebion 3 awr

Sefydliadau Eraill: £20 yr awr a  £50 am archebion 3 awr

Ystafell Gyfarfod Twrch

Mae ystafell Twrch yn addas ar gyfer hyd at 4 o bobl, ac mae’n cynnwys desg gyfarfod yn ogystal â bwrdd ochr gyda seddi hamddenol.

Mae Sgrin Clyfar ar y wal ar gyfer cyfarfodydd fideo a gwe-gamera Obsbot os oes angen.

Mae ystafell Twrch yn arbennig o addas ar gyfer pobl sy’n mynychu cyfweliadau neu apwyntiadau GIG Mynychu Unrhyw Le.

Ardal Gydweithio / Swyddfa Giedd

Yn addas ar gyfer ystafell gyfarfod hyd at  4 o bobl.

Mae yna  2 ffwrdd sydd yn medru cael eu trefnu yn un bwrdd cyfarfod neu  2  ddesg waith.

Archebwch yr holl ystafell neu ddesg waith unigol.

Yn cynnwys gweithfan y gellir addasu ei huchder ar gyfer defnydd eistedd/sefyll neu fynediad i gadeiriau olwyn. 

Mae te a choffi cyflenwol ar gael yn yr ystafell

Y Blwch Cyfarfod

Mae’r Blwch Cyfarfod yn ofod preifat ar gyfer hyd at  4 o bobl, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd bach neu ar-lein, neu fel man gweithio tawel neu astudio.

Prisiau Twrch, Giedd a’r Blwch Cyfarfod

Gwirfoddol/Addysgiadol:  £7.50 yr awr a  £20 am archebion 3 awr

Sefydliadau Eraill: £10 yr awr a  £30 am archebion 3 awr

Giedd a’r Blwch Cyfarfod: Desg Waith/Astudio Unigol: £5 yr hanner diwrnod, neu  £10 am ddiwrnod llawn, pan archebir ymlaen llaw. Am ddim ar sail galw heibio os nad yw’r ystafell yn cael ei defnyddio

Twrch a’r Blwch Cyfarfod: Unigolion yn mynychu apwyntiadau meddygol, sesiynau cynghori, neu gyfweliadau: Am ddim

Opsiynau Mannau Gwaith ac Astudio

Prif Lyfrgell: Mae 2 ddesg astudio gyda goleuadau tasgau ar gael yn y brif lyfrgell, yn rhad ac am ddim

Giedd a’r Blwch Cyfarfod hefyd ar gael i’w llogi’n breifat neu ardal gydweithio.  Gweler uchod ar gyfer manylion a chostau

Cyfleusterau Ychwanegol

65” CleverTouch Sgrin Glyfar ar stand symudol

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Mae sgrin CleverTouch yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau clwb, cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi.

Gallwch ei ddefnyddio i ffrydio fideos, ymuno neu gyflwyno cyfarfodydd ar-lein, ac mae’n wych ar gyfer cyrsiau hyfforddi hefyd

Mae’r sgrin gyffwrdd fawr gyda’r modd o gael mynediad i’r Rhyngrwyd, gyda Windows PC, a gallwch hefyd gysylltu gliniadur neu rannu cynnwys o ffôn clyfar neu lechen.

Os ydych yn bwriadu defnyddio’r Clever Touch ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, gofynnwch am gamera/meicroffon Obsbot ar wahân pan fyddwch yn archebu.

Mae’r sgrin ar stand symudol sydd â modd o addasu’r uchder.

Llogi CleverTouch:  £20 am hanner diwrnod, i’w archebu

Gwe-gamera Obsbot ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

Gwe-gamera diffiniad uchel   (4K)a meicroffon gyda golygfa 90gradd ac awto-olrhain dewisol. 

Da ar gyfer recordio cyflwyniadau fideo neu gyflwyno mewn cyfarfodydd – gellir gosod yr Obsbot i olrhain a dilyn y prif siaradwr.  Hefyd mae’n dda i ymuno â chyfarfodydd hybrid bach (hy  3 neu 4o bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein) oherwydd golygfa  90 gradd ac ansawdd y meicroffon. 

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar. 

Wedi’i gynnwys am ddim fel rhan o logi unrhyw ystafell, mae yma nifer o Obsbots ar gael i’w benthyg yn wythnosol:  £10 yr wythnos, rhaid eu harchebu o flaen llaw.

Bar Fideo Studio X30 ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig. 

Bar Fideo popeth-mewn-un cryno diffiniad uchel (4K) gyda gwe-gamera a meicroffon. Yn fwy na gwe-gamera Obsbot, mae gan y Studio X30 olygfa 120 gradd ac mae’n fframio grwpiau yn awtomatig.   

Mae’r Studio X30 yn dda ar gyfer ymuno â chyfarfodydd hybrid maint canolig (hy hyd at 6 bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein). Bydd yn fframio grwpiau yn awtomatig ac mae’n cynnig ystod clywed 15troedfedd gyda’r meicroffon, sy’n cynnig profiad cyfarfod proffesiynol. 

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar. 

Rhaid archebu o leiaf wythnos ymlaen llaw – gofynnwch am Far Fideo Studio X30 wrth archebu ystafell. £20 am hanner diwrnod. 

Gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig

Mae gliniadur ar gael i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn rhad ac am ddim.

Rydym hefyd yn llogi setiau o 5 neu 10 gliniadur ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Mae setiau gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig a rhaid eu harchebu o leiaf wythnos ymlaen llaw, a chyn belled ymlaen llaw â phosib i sicrhau argaeledd.  £50 y dydd am hyd at  5 gliniadur; £100 y dydd am rhwng  5 a 10 gliniadur.

Gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig

Mae gliniadur ar gael i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn rhad ac am ddim.

Rydym hefyd yn llogi setiau o 5 neu 10 gliniadur ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Mae setiau gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig a rhaid eu harchebu o leiaf wythnos ymlaen llaw, a chyn belled ymlaen llaw â phosib i sicrhau argaeledd.  £50 y dydd am hyd at  5 gliniadur; £100 y dydd am rhwng  5 a 10 gliniadur.