Gallwch argraffu pob math o bethau – ffeiliau PDF, dogfennau, ffotograffau a hyd yn oed tudalennau gwe. Gwnewch yn siŵr nad yw eich print yn fwy na’n cyfyngiad ar faint y ffeil sef 100 MB.
Argraffu Diwifr
Gallwch nawr argraffu’n ddiwifr o’ch dyfais ym mhob un o’n llyfrgelloedd.
P’un a oes angen i chi argraffu tocyn byrddio neu boster, mae hynny’n bosibl gyda’n cyfleusterau argraffu Wi-Fi.
Sut ydw i’n argraffu’n ddiwifr?
Pan fyddwch yn un o’n llyfrgelloedd, yn gyntaf gwnewch yn siŵr bod eich dyfais wedi’i chysylltu â Wi-Fi PowysGuest.
Cyn gynted ag y byddwch yn barod i argraffu, dewiswch ‘print’ fel arfer ar eich dyfais.
Rhestrir argraffyddion llyfrgell yn Saesneg-Cymraeg, er enghraifft, “Brecon-Library-Llyfrgell-Aberhonddu”. Dewiswch yr argraffydd rydych chi ei eisiau.
Bydd eich ffeil yn cael ei hanfon drwodd at ein staff Cyngor Powys – ewch at y ddesg i dalu a bydd y llyfrgellydd yn rhyddhau eich ffeil i’r argraffydd.
Os oes gennych unrhyw broblemau, rhowch wybod i aelod staff, a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Beth alla’ i ei argraffu?
O ba ddyfeisiau y gallaf argraffu?
You can print from all Windows, Android, MacOS and iOS devices.
Faint mae argraffu yn ei gostio?
Mae argraffu diwifr yn costio’r un faint ag argraffu o un o’n cyfrifiaduron personol – 40c ar bob ochr lliw ac 20c am bob ochr du a gwyn.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth argraffu diwifr, siaradwch â staff yn ein llyfrgelloedd.