Dysgwch am waith llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau
Ymuno â ni
Canfyddwch sut i gymryd rhan
Pam gwirfoddoli gyda ni
Volunteers are at the heart of Powys’ Cultural Services and play a vital role in supporting the work we do.
Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar draws y gwasanaeth: o bell ac wyneb yn wyneb, yn wynebu’r cyhoedd a thu ôl i’r llenni.
Rydym yn croesau gwirfoddolwyr o bob cefndir a’n nod yw darparu profiadau cyfoethog i bawb sy’n rhoi boddhad.
Rydym yn cynnig ymrwymiad hyblyg i’ch siwtio chi: chi sy’n penderfynu faint o amser yr hoffech ei roi. Pa bynnag rôl y byddwch yn ei dewis, byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth trylwyr.
Mae llawer o fanteision i wirfoddoli gyda ni
Dysgwch
Sgiliau
Enillwch sgiliau gwella gyrfa
Arbenigedd
Gwnewch ddefnydd o’ch doniau a’ch arbenigedd
Ymgysylltwch
Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar a gweithiwch gyda phobl o’r un anian
Rhannwch
Rhannwch eich angerdd a’ch brwdfrydedd dros bwnc neu sefydliad gyda’r cyhoedd
Mynediad
Manteisiwch ar ddigwyddiadau a hyfforddiant unigryw i wirfoddolwyr
Am bwy ydyn ni’n chwilio
Mae cyfleoedd gwirfoddoli yn ein llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yn boblogaidd. Rydym yn gwahodd pob ymgeisydd i ddod am gyfweliad byr, anffurfiol i drafod ei ddiddordebau, sgiliau a’r amser gall ei ymroi fel ein bod ni’n gallu asesu ei addasrwydd ar gyfer ei rôl ddewisol (rolau dewisol)
Nodwch ei fod yn ofynnol bod ein holl wirfoddolwyr sy’n 16 a hŷn yn cwblhau gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae Cyngor Sir Powys yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal a chaiff bob mynegiant o ddiddordeb a dderbyniwn oddi wrth wirfoddolwyr posibl eu hystyried heb roi sylw i hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, tarddiad cenedlaethol, statws anabledd, nac unrhyw nodwedd arall a ddiogelir gan y gyfraith.