Ystafell Gyfrifiaduron Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt

Mae ystafell gyfarfod fach gan Lyfrgell Llanfair-ym-Muallt sy’n cynnwys 6 o gyfrifiaduron Windows, ac ychydig o wagle ar gyfer dyfeisiadau ychwanegol.

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal digwyddiadau hyfforddi TGCh? Mae ystafell gyfarfod fach gan Lyfrgell Llanfair-ym-Muallt sy’n cynnwys 6 o gyfrifiaduron Windows, ac ychydig o wagle ar gyfer dyfeisiadau ychwanegol.

Mae’r ystafell hefyd yn addas fel gwagle ar gyfer cyfarfodydd bach i 2 neu 3 pherson, neu fel gwagle ar gyfer gwaith personol. Mae’r prisiau isod.

Ar adegau efallai bydd yr ystafell ar gael y tu allan i oriau. I wirio argaeledd ac archebu, anfonwch e-bost atom ni. Gwiriwch ein horiau agor a manylion cyswllt yma.

 

Prisiau’r Ystafell Gyfrifiaduron

Sefydliadau gwirfoddol/addysgol: £15 yr awr a £30 am archebion 3 awr. Gostyngiad o 10% ar gyfer archebion rheolaidd (10 y flwyddyn a throsodd).

Sefydliadau eraill: £20 yr awr a £50 am archebion 3 awr. Gostyngiad o 10% ar gyfer archebion rheolaidd reduction (10 y flwyddyn a throsodd).

Ystafell yn unig (hynny yw heb ddefnyddio cyfrifiaduron)

Gwirfoddol/Addysgiadol:  £7.50 yr awr a  £20 am archebion 3 awr

Sefydliadau Eraill: £10 yr awr a  £30 am archebion 3 awr

Ar rai adegau efallai y bydd y llyfrgell ar gael y tu allan i oriau hefyd, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.