Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar www.storipowys.org.uk. Mae’r wefan yn cael ei chynnal gan StoriPowys: Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau, rhan o Gyngor Sir Powys.

Mae StoriPowys wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch i bawb.

Mae’r wefan yn defnyddio dyluniad ymatebol, sy’n newid cynllun y tudalennau gwe, fel eu bod yn gweithio’n dda ar gyfrifiaduron personol, tabledi a ffonau symudol.

Rydym am i gymaint o bobl ag y bo modd ddefnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylech chi allu wneud y canlynol:

  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan (nid yw hyn yn cynnwys pdf a mathau eraill o atodiadau) gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor am wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Ond byddwn yn gweithio i wella’r elfennau hyn o ran hygyrchedd, lle mae o fewn ein gallu i wneud hynny, neu byddwn yn gweithio gyda’n cyflenwyr i wneud hynny:

  • mae rhai dogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
  • nid yw cynnwys a swyddogaethau a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn gwbl hygyrch.
  • nid yw’r Teithiau Rhithwir 3D yn gwbl hygyrch.
  • mae rhai tudalennau’n dangos map Google y gallai defnyddwyr darllenwyr sgrin a defnyddwyr bysellfwrdd ei chael yn anodd ei ddefnyddio.
  • nid yw rhai elfennau sy’n perthyn i benawdau yn gyson

Fformatau Amgen

Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni yn:

  • Ebost: clic yma
  • Rhif ffôn: 01874 612394

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

  • Ebost: clic yma
  • Rhif ffôn: 01874 612394

Ein nod yw ymateb i adborth o fewn 3 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ynghylch Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae StoriPowys yn rhan o Gyngor Sir Powys. Rydym wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2)2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 , oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft mae rhai tudalennau’n dangos map Google y gallai defnyddwyr darllenwyr sgrin a defnyddwyr bysellfwrdd ei chael yn anodd ei ddefnyddio.

Nid yw’r rhan fwyaf o’n dogfennau PDF hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Ein nod yw sicrhau bod pob dogfen a gyhoeddir ar ôl 23/09/2018 yn gwbl hygyrch, yn unol â’r rheoliadau hygyrchedd.

Nid yw’r Teithiau Rhithwir 3D yn gwbl hygyrch. Efallai na fydd technoleg gynorthwyol yn gweithio ym mhob rhan o’r pecyn.

  • Nid yw pob cynnwys nad yw’n destun yn dal disgrifiad testun amgen
  • Bydd defnyddwyr yn dod ar draws cynnwys amlgyfrwng pop-up trwy gydol yr ymweliad rhithwir
  • Nid yw gwybodaeth gymorth benodol yn cael ei harddangos yn awtomatig ac mae’n rhaid ei dewis o fewn y ddewislen
  • Nid yw darllenwyr sgrin yn gallu adnabod rhai rhannau o’r daith

Sut rydym yn profi’r wefan hon

Paratowyd y datganiad hwn ar 23/01/2023

Profwyd y wefan ddiwethaf ar 23/01/2023. Cynhaliwyd profion gan dîm digidol StoriPowys.

Cynhaliwyd profion â llaw, gan ddefnyddio sampl o dudalennau.