Ynglŷn â StoriPowys

StoriPowys yw’r term ar y cyd am wasanaethau llyfrgell, amgueddfeydd ac archifau a reolir gan Gyngor Sir Powys. Mae hyn yn cynnwys 14 llyfrgell gyhoeddus a 4 amgueddfa ar draws Powys, yn ogystal ag archifau canolog yn Llandrindod. Yn ogystal, rydym yn cefnogi 4 llyfrgell sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned ac yn gweithio gydag ystod o bartneriaid lleol a chenedlaethol, yn ogystal â thîm o wirfoddolwyr ymroddedig, i ddarparu cyfleoedd ar gyfer lles, dysgu a diwylliant yn ein mannau ffisegol a digidol.

Gweledigaeth:
I fod yn arweinydd mewn gwasanaethau diwylliannol arloesol sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau, lle mae diwylliant a gwybodaeth yn cysylltu pobl a lleoedd fel y gallwn ddysgu o’n gorffennol, cofleidio ein presennol a siapio ein dyfodol.

 

Cenhadaeth:
I greu lleoliad, lle mae pethau cyffrous, arloesol ac sy’n cyfoethogi yn digwydd trwy gysylltiad â diwylliant ym Mhowys. Mae adeiladu cymunedau cryf yn ganolog i’n nodau, yn ogystal â dathlu amrywiaeth, a gwneud cyfraniad deinamig i fentrau hinsawdd.

Drwy ein buddsoddiad mewn diwylliant, bydd Stori Powys yn datblygu profiadau ysbrydoledig gyda llyfrau, celf, arteffactau a gwybodaeth ar gyfer cynulleidfaoedd lleol a’r byd. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ein hamcanion allweddol:

Cyfoethogi ac Ysgogi:

  • Datblygu rhaglen fywiog o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd dwyieithog yn ddigidol ac ar draws ein holl safleoedd i hyrwyddo llythrennedd, dysgu a mwynhad mewn cyfranogiad diwylliannol
  • Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, profiad gwaith a phrentisiaethau, a chynnig y cyfleoedd hyn i ennill sgiliau, magu hyder a rhannu gwybodaeth
  • Datblygu gallu’r gweithlu a dod i adnabod y sgiliau, ymddygiadau, gwybodaeth ac arbenigedd i gyflawni ein huchelgais
  • Deall ac ymateb yn well i ddyheadau grwpiau sydd yn cael eu tan-gynrychioli ym Mhowys a helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb
  • Adeiladu ar ein polisïau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ar gyfer datblygu a chaffael casgliadau, gan gynnwys mynediad at adnoddau digidol, eLyfrau ac adnoddau ar-lein
  • Darparu ystod eang o adnoddau a gweithgareddau sy’n cyfrannu at iechyd a lles trigolion Powys, ac yn cyflwyno mentrau sy’n cynnig cyfleoedd i feithrin sgiliau.

Archwilio a Chydweithio:

  • Gweithio’n agosach gyda darparwyr iechyd i sicrhau bod ein gweithgareddau iechyd a lles yn ychwanegu gwerth ac yn cyrraedd y rhai sydd ag anghenion iechyd a lles
  • Gweithio’n agosach gyda phartneriaid addysg i ddatblygu a thargedu cymorth i blant gyda’u darllen a llythrennedd a dysgu teuluol
  • Gweithio gydag unigolion a chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau eu bod yn rhan annatod o ddylunio, cyflawni a gwerthuso’r hyn sy’n digwydd yn eu darpariaeth leol
  • Cydweithio â darparwyr gwasanaethau i bobl ifanc i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys ar draws y sir mewn diwylliant i bobl ifanc
  • Archwilio cyfleoedd i gysylltu â sefydliadau celfyddydol
  • Rhagor o waith ar gyflenwi cymunedol/trydydd sector

 

 

Esblygu ac Arloesi:

  • Parhau i ddatblygu a gweithredu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer arweinyddiaeth tîm a datblygu’r gweithlu, gan rymuso staff a rheolwyr i fod yn ystwyth a hyblyg i ddiwallu anghenion lleol a’r gwasanaeth
  • Gwella perfformiad ariannol ein gwasanaethau, a chytuno ar frandio a marchnata sy’n hyrwyddo amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Powys fel cyrchfannau diwylliannol i ymwelwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Datblygu ein gofodau ymhellach fel llwyfannau ar gyfer cyfranogiad a gweithgareddau cymunedol
  • Hyrwyddo a datblygu adnoddau a seilwaith digidol a all helpu i ysbrydoli a hwyluso mynediad ehangach
  • Sicrhau bod lleoliadau presennol yn effeithlon o ran ynni ac yn hygyrch, drwy annog dull mwy cynaliadwy gan gynnwys newid ymddygiad, effeithlonrwydd ynni, a gwrth-bwyso carbon
  • Defnyddio diwylliant i feithrin cariad gweithredol tuag at natur sy’n helpu mwy o bobl i ymgysylltu â’r amgylchedd mewn ffordd gynaliadwy