Chwilio Casgliadau Amgueddfeydd a Threftadaeth
Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys
Dysgwch fwy am y gwaith pwysig y mae amgueddfeydd Powys yn eu gwneud i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y sir.
Mae y Gaer yn ddatblygiad diwylliannol cyffrous ac ysbrydoledig, yn atyniad mawr i bobl leol ac ymwelwyr i Aberhonddu ac yn sbardun i adfywio cymuned Powys.
Mae’n uno’r Neuadd y Sir glasurol, sy’n cynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog ar ei newydd wedd a’i hystafell llys Fictoraidd ryfeddol, gyda Llyfrgell Aberhonddu, ystafelloedd addysg a chymunedol a chaffi newydd. Mae’r elfennau cyflenwol hyn wedi’u cysoni mewn datblygiad pensaernïol unigryw a beiddgar sy’n asio’r hen a’r newydd, ac maent yn gwbl hygyrch ac yn groesawgar i bawb.
***Mynediad olaf i’r Amgueddfa 4:00pm yn ystod yr wythnos a 3:30pm ar benwythnosau***
Cefnogir oriau agor ar ddydd Sul gan Gyngor Tref Aberhonddu.
Teithiau 360° yn syth o’ch cyfrifiadur. Gweld ein amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a golygfeydd o Bowys o’ch cartref eich hun!
Cliciwch ar y ddelwedd i gychwyn arni.
Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys