Llyfrgell Y Drenewydd Ystafelloedd Gyfarfod a Hwb Digidol

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau cymunedol ym Mhowys? Neu swyddfa breifat sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd bach, cyfweliadau neu fel gweithle?

Mae gan Llyfrgell Y Drenewydd  2 ystafell gyfarfod gyda’r cyfleusterau angenrheidiol, gyda defnydd dewisol o gyfleusterau cegin.

Mae’r Pod Cyfarfod hefyd ar gael ar gyfer cyfarfodydd llai neu weithle preifat, a gallwch ddod o hyd i ddesgiau gwaith a seddi hamddenol yn ein gofod ‘Cornel Wifi’ a rennir.

Mae offer ychwanegol ar gael, gan gynnwys sgrin glyfar fawr wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd, gwe-gamera a gliniadur – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Mae Wifi am ddim ar gael ym mhob rhan o’r adeilad, ynghyd ag argraffu Wifi

Mae gofod arddangos hefyd ar gael

I wirio argaeledd ac i archebu lle, ffoniwch y llyfrgell ar 01686 626934 neu  e-bostiwch ni. Gwiriwch ein horiau agor a’n manylion cyswllt yma

Ystafell Gyfarfod Fawr

Mae’r Ystafell Gyfarfod Fawr yn le hwylus, amlbwrpas ac o faint da sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd 1:1 grwpiau bach neu ddigwyddiadau dysgu neu gyflwyniadau mwy o faint.

Mae Sgrin Glyfar fawr sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd ar gael ar gais, ynghyd ag amrywiaeth o offer ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hyfforddi – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Mae cyfleusterau cegin ar gael hefyd for a small extra charge.

Prisiau Ystafelloedd Gyfarfod Mawr

Sefydliadau gwirfoddol/addysgol: £15 yr awr a £30 am archebion 3 awr. Gostyngiad o 10% ar gyfer archebion rheolaidd (10 y flwyddyn a throsodd).

Sefydliadau eraill: £20 yr awr a £50 am archebion 3 awr. Gostyngiad o 10% ar gyfer archebion rheolaidd reduction (10 y flwyddyn a throsodd).

Defnydd o gyfleusterau cegin: £5 ychwanegol.

Ar rai adegau efallai y bydd y llyfrgell ar gael y tu allan i oriau hefyd, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Ystafell Gyfarfod Bach

Mae’r Ystafell Gyfarfod Bach yn addas ar gyfer hyd at 3 o bobl. Mae’n cynnwys gweithfan y gellir addasu ei huchder ar gyfer defnydd eistedd/sefyll neu fynediad i gadeiriau olwyn, yn ogystal â bwrdd ochr gyda seddau hamddenol. Mae monitor mawr ar gael ac mae Obsbot Camera ar gael os oes angen.

Mae te a choffi ar gael am ddim yn yr ystafell, ac mae cyfleusterau’r gegin ar gael am fân dâl ychwanegol.

Prisiau Ystafelloedd Cyfarfod Bach

Gwirfoddol/Addysgiadol:  £7.50 yr awr a  £20 am archebion 3 awr

Sefydliadau Eraill: £10 yr awr a  £30 am archebion 3 awr

Unigolion sy’n mynychu apwyntiadau meddygol, sesiynau cynghori, neu gyfweliadau: Am ddim

Opsiynau Mannau Gwaith ac Astudio

Cornel Wifi: Mae Wifi am ddim ar gael ym mhob rhan o’r adeilad, ond mae gan ein Cornel Wifi gymysgedd o seddi hamddenol, man gwaith uchder cownter a byrddau i chi eu defnyddio am ddim.

Y Pod: Mae’r Pod ar gael os ydych yn taro heibio, os yw ar gael ar y pryd – holwch wrth y ddesg.

Cyfleusterau Ychwanegol

65” CleverTouch Sgrin Glyfar ar stand symudol

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Mae sgrin CleverTouch yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau clwb, cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi.

Gallwch ei ddefnyddio i ffrydio fideos, ymuno neu gyflwyno cyfarfodydd ar-lein, ac mae’n wych ar gyfer cyrsiau hyfforddi hefyd

Mae’r sgrin gyffwrdd fawr gyda’r modd o gael mynediad i’r Rhyngrwyd, gyda Windows PC, a gallwch hefyd gysylltu gliniadur neu rannu cynnwys o ffôn clyfar neu lechen.

Os ydych yn bwriadu defnyddio’r Clever Touch ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, gofynnwch am gamera/meicroffon Obsbot ar wahân pan fyddwch yn archebu.

Mae’r sgrin ar stand symudol sydd â modd o addasu’r uchder.

Llogi CleverTouch:  £20 am hanner diwrnod, i’w archebu.

Gwe-gamera Obsbot ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

Gwe-gamera diffiniad uchel   (4K)a meicroffon gyda golygfa 90gradd ac awto-olrhain dewisol.

Da ar gyfer recordio cyflwyniadau fideo neu gyflwyno mewn cyfarfodydd – gellir gosod yr Obsbot i olrhain a dilyn y prif siaradwr.  Hefyd mae’n dda i ymuno â chyfarfodydd hybrid bach (hy  3 neu 4o bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein) oherwydd golygfa  90 gradd ac ansawdd y meicroffon.

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar.

Wedi’i gynnwys am ddim fel rhan o logi unrhyw ystafell, mae yma nifer o Obsbots ar gael i’w benthyg yn wythnosol:  £10 yr wythnos, rhaid eu harchebu o flaen llaw.

Bar Fideo Studio X30 ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Bar Fideo popeth-mewn-un cryno diffiniad uchel (4K) gyda gwe-gamera a meicroffon. Yn fwy na gwe-gamera Obsbot, mae gan y Studio X30 olygfa 120 gradd ac mae’n fframio grwpiau yn awtomatig.

Mae’r Studio X30 yn dda ar gyfer ymuno â chyfarfodydd hybrid maint canolig (hy hyd at 6 bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein). Bydd yn fframio grwpiau yn awtomatig ac mae’n cynnig ystod clywed 15troedfedd gyda’r meicroffon, sy’n cynnig profiad cyfarfod proffesiynol.

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar.

Rhaid archebu o leiaf wythnos ymlaen llaw – gofynnwch am Far Fideo Studio X30 wrth archebu ystafell. £20 am hanner diwrnod.

Gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig

Mae gliniadur ar gael i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn rhad ac am ddim.

Rydym hefyd yn llogi setiau o 5 neu 10 gliniadur ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Mae setiau gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig a rhaid eu harchebu o leiaf wythnos ymlaen llaw, a chyn belled ymlaen llaw â phosib i sicrhau argaeledd.  £50 y dydd am hyd at  5 gliniadur; £100 y dydd am rhwng  5 a 10 gliniadur.

Benthyciadau DigiTech: iPads, Chromebooks, gwe-gamerâu a thaflunwyr – benthyg a mynd adref gyda chi

Rydym hefyd yn cynnig offer i chi ei fenthyg a mynd adref gyda chi, gan gynnwys iPads, chromebooks, gwe-gamerâu, a chitiau taflunydd digidol. Ewch i’n tudalen Benthyciadau DigiTech am ragor o wybodaeth.