Benthyciadau DigiTech

Gallwch fenthyg mwy na llyfrau o Lyfrgelloedd Powys!

Mae gennym ni iPads, Chromebooks, gwe-gamerâu a thaflunwyr digidol – i gyd ar gael i chi eu benthyg a mynd adref gyda chi.

iPads

Gallwch fenthyg iPad am fis ar y tro, yn rhad ac am ddim. Mae ein iPads yn dod â data symudol, felly nid oes angen Wifi arnoch gartref.

Newydd i iPads? Dim problem – byddwn yn eich helpu i ddechrau arni, ac mae help ar gael unrhyw bryd drwy gydol y benthyciad.

Chromebooks

Gallwch fenthyg Chromebook am fis ar y tro yn rhad ac am ddim, a gall myfyrwyr fenthyca am hyd at 3 mis.

Nid oes gan ein Chromebooks ddata symudol, felly bydd angen eich Wifi eich hun arnoch chi.

Taflunwyr Digidol

Mae gennym ddau Becyn Taflunydd Digidol ar gael i’w llogi ar gyfer benthyciad wythnosol.

Mae pob pecyn yn cynnwys camera ar wahân a meicroffon/seinydd, sy’n golygu eu bod yn wych ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, yn ogystal â rhannu cynnwys eich sgrin i’ch clwb neu’ch grŵp.

Sylwch nad ydym yn rhoi benthyg sgriniau, ond mae’r taflunydd yn gweithio’n dda yn erbyn wal lliw golau

Ar gael am wythnos o fenthyciad, a rhaid ei archebu o leiaf wythnos ymlaen llaw.

E-bostiwch ni i wirio argaeledd ac i archebu. Tâl llogi o £50 yr wythnos.

 

Pecyn Taflunydd 1: Optoma HD29HST

  • Gall y taflunydd hwn fod hyd at 2 fetr i ffwrdd o wal neu sgrin, ac yn gyffredinol mae’n ddigon llachar i’w ddefnyddio mewn golau dydd. Mae’n defnyddio prif gyflenwad trydan, ac yn cysylltu â gliniadur gyda chebl HDMI.
  • Mae’r pecyn yn cynnwys talfunydd digidol Optoma HD29HST, Gwe-gamera NexiGo N60 a meicroffon / seinydd Anker PowerConf.

Sylwch nad ydym yn rhoi benthyg sgriniau, ond mae’r taflunydd yn gweithio’n dda yn erbyn wal lliw golau

Pecyn Taflunydd 2: XGimi Halo+

  • Mae hwn yn daflunydd da ar gyfer pellteroedd hir a phan mae’r golau’n isel, ond nid yw’n addas ar gyfer golau dydd. Mae ganddo batri yn rhan o’r peiriant a all ddarparu o leiaf 2 awr o bŵer. Gellir ei gysylltu â gliniadur, ffôn clyfar neu lechen
  • Mae’r pecyn yn cynnwys: Taflunydd Digidol Halo HD, gwe-gamera Logitech a meicroffon/seinydd Jabra Bluetooth

Gwegamera Obsbot

Mae’r Obsbot yn we-gamera diffiniad uchel a meicroffon, gydag olrhain awtomatig dewisol. Mae hyn yn ei gwneud yn arbennig o addas ar gyfer cyflwyniadau fideo neu gyfarfodydd hybrid bach (hy 3 neu 4 o bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein). I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar. I ddarganfod mwy am yr Obsbot, gwyliwch y fideo cyflenwr yma.

Wedi’i gynnwys am ddim fel rhan o unrhyw logi ystafell, mae’r Obsbot hefyd ar gael am fenthyciad wythnosol. Os ydych am fenthyg Obsbot i’w gludo o’r llyfrgell, rhaid ei archebu o leiaf wythnos ymlaen llaw.

E-bostiwch ni i wirio argaeledd ac i archebu. Tâl llogi o £10 yr wythnos.

Ystafelloedd cyfarfod a mannau gweithio yn y llyfrgell

Mae gan nifer o’n hadeiladau ystafelloedd cyfarfod, swyddfeydd preifat neu ddesgiau cydweithio llawn offer i’w llogi.

Mae offer ychwanegol ar gael i chi ei ddefnyddio yn y llyfrgelloedd hyn. Gweler ein tudalen Ystafelloedd a Mannau am ragor o wybodaeth.