Benthyca Chromebook

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fenthyg Chromebook o Lyfrgelloedd Powys?

Mae benthyca Chromebook fwy neu lai fel benthyca llyfr – bydd angen i chi gael cerdyn llyfrgell a byw ym Mhowys, a gallwch ei fenthyg am bedair wythnos.

Bydd angen i chi fod yn 18 oed o leiaf i fenthyg Chromebook, felly os ydych yn iau, bydd angen rhiant neu warcheidwad cyfreithiol arnoch i gymryd cyfrifoldeb am y benthyciad.

Sut mae benthyca Chromebook?

Nid ydym yn cadw’r Chromebooks mewn canghennau felly bydd angen i chi anfon e-bost atom yn library@powys.gov.uk i ofyn am un – byddwn yn anfon y Chromebook i’ch cangen agosaf i chi ei gasglu.

Bydd angen i chi fod yn aelod o’r llyfrgell, a dangos rhywfaint o ID pan fyddwch yn casglu’r ddyfais. Os ydych o dan 18 oed, bydd angen rhiant neu warcheidwad arnoch i gymryd cyfrifoldeb am y benthyciad a benthyca’r Chromebook ar eich rhan.

Am ba mor hir y gallaf fenthyg y Chromebook?

Y cyfnod benthyca arferol yw 4 wythnos, ond mae benthyciad 3 mis ar gael i ddisgyblion a myfyrwyr – rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gofyn am y Chromebook.

Mae angen i chi fod yn 18 o leiaf i fenthyg ein Chromebooks, ond gall rhieni a gwarcheidwaid fenthyca ar ran plentyn cyhyd â bod yr oedolyn yn cymryd cyfrifoldeb am y ddyfais a sut mae’n cael ei defnyddio.

A oes angen fy nghysylltiad rhyngrwyd fy hun arnaf?

Oes, bydd angen mynediad i Wifi. Ni allwch wneud llawer ar y Chromebook heb gysylltiad rhyngrwyd.

Os nad oes gennych WiFi, efallai y byddai’n well gennych fenthyg un o’n iPads, sy’n dod gyda lwfans data.

Beth yw Chromebook?

Gliniadur yn unig yw Chromebook, ond mae’r meddalwedd gan Google.

Os ydych chi wedi arfer â gliniadur Windows, mae yna ychydig o wahaniaethau yn y meddalwedd, ond nid yw’n cymryd yn hir i ddod i arfer ag ef, a byddwn yn dy helpu i ddechrau.

A yw’n dod gyda Microsoft Office?

No, but if you have a Microsoft 365 account from school, college or work, you can login to Microsoft Office from the Chromebook and get full access to your organisation’s Word, Excel, Outlook, OneDrive etc.

Os nad oes gennych gyfrif Microsoft 365 trwy’r gwaith neu’r ysgol, gallwch barhau i gael mynediad at fersiwn llai o’r un feddalwedd trwy fewngofnodi i wefan Microsoft gyda chyfrif Hotmail neu Outlook. Os nad oes gennych y naill na’r llall, gallwch sefydlu cyfrif Outlook am ddim.

Fel arall, gallwch ddefnyddio meddalwedd Google sy’n dod gyda’r Chromebook: Google Docs, Google Mail a Google Sheets.

Chromebook neu iPad?

Mae gennym ni’r ddau!

Math o liniadur yw Chromebooks, felly mae ganddyn nhw sgrin fwy a bysellfwrdd. Maen nhw orau ar gyfer unrhyw beth sydd angen llawer o deipio, fel gwaith neu astudio.

Mae iPads yn llai ac rydych chi’n teipio gan ddefnyddio’r bysellfwrdd ar y sgrin – maen nhw orau ar gyfer defnyddio apiau neu bori’r rhyngrwyd.

Fodd bynnag, os nad oes gennych Wifi gartref, efallai y bydd ein Benthyciadau iPad yn fwy defnyddiol i chi, oherwydd mae iPads yn dod â data symudol.

Dydw i ddim yn gwybod dim am Chromebooks a dydw i ddim yn gyfarwydd iawn â thechnoleg – a fydd unrhyw un yn helpu?!

Oes! Byddwn yn rhoi taflen gymorth i chi i ddechrau, a bydd staff wrth law i ddangos y pethau sylfaenol i chi pan fyddwch yn ei godi.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau technegol yn ystod y benthyciad, gallwch ein ffonio unrhyw bryd ar Linell y Llyfrgell ar 01874 612394.

Rydw i wedi defnyddio Chromebooks yn yr ysgol – ydyn nhw jyst yr un peth?

Yn bennaf, er y gallai fod rhai gwahaniaethau.

Efallai eich bod wedi defnyddio Chromebook sgrin gyffwrdd – nid oes gan Chromebooks y Llyfrgell sgrin gyffwrdd, a bydd angen i chi ddefnyddio pad y llygoden neu ofyn am fenthyg llygoden.

Mae Chromebooks Ysgol fel arfer yn cael eu hamddiffyn gan hidlo rhyngrwyd a meddalwedd gwrthfeirws. Nid oes gan Chromebooks y Llyfrgell y naill na’r llall, felly mae angen i rieni neu warcheidwaid sy’n benthyca ar ran plentyn gymryd cyfrifoldeb am yr holl weithgarwch ar y ddyfais.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â ni i ofyn am Chromebook, neu i ddarganfod mwy am fenthyca Chromebook.