Ymunwch â’r llyfrgell

Gallai unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio ym Mhowys ymuno â’r llyfrgell ac mae’n rhad ac am ddim.

Bydd aelodau’r llyfrgell yn gallu:

  • benthyg llyfrau, gan gynnwys llyfrau llafar ar CD.
  • defnyddio’r catalog i archebu ac adnewyddu eitemau ar-lein.
  • llwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchronau’n syth i’ch ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur.

Gall unrhyw un alw yn ein llyfrgelloedd i:

  • ddefnyddio cyfrifiaduron a wi-fi, am ddim (bydd angen cael caniatâd rhiant neu warcheidwad ar gyfer rhai dan 16 oed, a bydd angen iddynt fod yn aelodau o’r llyfrgell. Nid oes unrhyw gyfyngiadau os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn).
  • Dewch o hyd i hanes eich teulu – gallwch chwilio Achau am ddim ar gyfrifiaduron y llyfrgell neu drwy gysylltu eich dyfais eich hun at ein gwasanaeth Wifi am ddim.
  • defnyddio Access2Research ar gyfrifiadur y llyfrgell.

Cyfarwyddiadau Ymuno

Cliciwch Ymuno Ar-lein i ymuno â’r llyfrgell nawr

Byddwch yn derbyn rhif aelodaeth dros dro y gallwch ei ddefnyddio i ddechrau defnyddio e-lyfrau, elyfrausain ac egylchgronau yn syth.

Cofiwch edrych yn eich ffolder post sothach os na fydd yr e-bost yn cyrraedd.

Gallwch alw heibio unrhyw lyfrgell gyda rhyw fath o ID (e.e. cerdyn banc neu drwydded yrru) i uwchraddio i aelodaeth lawn a byddwch yn gallu benthyg llyfrau a llyfrau llafar o unrhyw un o’n llyfrgelloedd cangen.

Neu, galwch mewn i unrhyw lyfrgell a gallwch chi neu eich plentyn ymuno ar unwaith.

Bydd rhaid i riant neu warcheidwad wneud cais ar ran unrhyw un dan 14 oed.

Fel arfer, bydd angen gweld rhyw fath o ID ar gyfer aelodaeth lawn – e.e cerdyn banc neu drwydded yrru – ond cysylltwch â ni os bydd hyn yn achosi problem.

Hysbysiad Preifatrwydd i Lyfrgelloedd

Er mwyn darparu Gwasanaethau Llyfrgelloedd i chi, rydym yn casglu ac yn cadw rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi. Bydd hyn yn cynnwys: