Archebwch Le

Mae ein hystafelloedd cyfarfod a’n mannau arddangos yn berffaith ar gyfer eich digwyddiad nesaf

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfodydd, hyfforddiant neu ddigwyddiadau cymunedol ym Mhowys? Rhywle preifat ar gyfer cyfarfodydd neu gyfweliadau ar-lein? Neu ddesg waith llawn offer mewn ystafell a rennir neu ystafell breifat?

Mae gennym amrywiaeth o ardaloedd fforddiadwy a hyblyg i’w llogi ar draws y sir.

Mae gostyngiadau ar gael i fudiadau cymunedol neu wirfoddol, ac ar gyfer archebion o10 wythnos neu fwy.

Mae gan lawer o’n hystafelloedd cyfarfod gyfleusterau ychwanegol hefyd, gan gynnwys sgriniau arddangos mawr gyda chysylltiad â’r rhyngrwyd, offer fideo-gynadledda, a banciau o liniaduron ar gyfer digwyddiadau hyfforddi – edrychwch ar y tudalennau isod i weld beth sydd ar gael ym mhob lleoliad.

Mae Wifi am ddim ar gael ym mhob rhan o’n hadeiladau, ynghyd ag argraffu Wifi (llyfrgelloedd yn unig).

Offer TGCh

Mae llawer o’n hystafelloedd a gwagleoedd yn cynnwys offer ychwanegol er mwyn hwyluso eich gwaith, astudio, cyfarfod neu ddigwyddiad – gan gynnwys sgriniau arddangos  65” taflunyddion, gliniaduron a gwe gamerâu.

Ac os ydych chi’n llogi ein hystafelloedd i redeg sesiwn hyfforddi, neu os hoffech i bawb yn eich digwyddiad gael mynediad at gyfrifiadur, rydyn ni hefyd yn llogi gliniaduron mewn setiau o  5 neu  10 (i’w defnyddio yn yr adeilad yn unig).

Gwiriwch y tudalennau uchod i weld beth sydd ar gael ym mhob safle.

Hoffech chi fenthyg dyfais a’i chymryd adref? Gallwch fenthyg iPad, Chromebook, gwe-gamera neu daflunydd digidol o’ch llyfrgell leol.