Llogi Ystafell yn y Gaer

Mae gan Lyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Gelf y Gaer yn Aberhonddu ystafell gyfarfod fawr â chyfarpar da i’w llogi, gydag opsiynau i osod yr ystafell mewn gwahanol ffyrdd.

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfodydd, hyfforddiant neu ddigwyddiadau cymunedol? Mae gan Lyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Gelf y Gaer yn Aberhonddu ystafell gyfarfod fawr â chyfarpar da i’w llogi, gydag opsiynau i osod yr ystafell mewn gwahanol ffyrdd.

Free Wifi is available throughout the building, along with Wifi printing

To check availability and to make a booking, please phone the library on 01874 623346 or email us. Check our opening times and contact details here

Ystafell Dysgu Creadigol

Mae’r Ystafell Dysgu Creadigol yn y Gaer ar gael i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.

Mae’r ystafell o faint da, gydag opsiynau cynllun hyblyg.

Mae gan yr ystafell ddwy sinc, ffenestri sy’n agor a golygfeydd o’r ardd.

Mae sgrin fawr wedi’i gosod ar wal yn yr ystafell, sy’n gallu cysylltu â gliniadur â chebl HDMI. Os hoffech ddefnyddio’r sgrin ar gyfer cyfarfodydd ar-lein neu alwadau fideo, mae gennym ni we-gamera/meic ar gael hefyd – gofynnwch wrth archebu.

Mae caffi cyhoeddus ar gael ar y safle, neu gallwch drefnu arlwyo ar gyfer eich cyfarfod ar wahân drwy  cafe-y-gaer@nptcgroup.ac.uk

Prisiau

Sefydliadau gwirfoddol/addysgol: £18 yr awr a £36 am archebion 3 awr. Gostyngiad o 10% ar gyfer archebion rheolaidd (10 y flwyddyn a throsodd).

Sefydliadau eraill: £24 yr awr a £60 am archebion 3 awr. Gostyngiad o 10% ar gyfer archebion rheolaidd reduction (10 y flwyddyn a throsodd).

Cyfleusterau Ychwanegol

Sgrin Wedi’i Gosod ar y Wal

Ceir monitor mawr sydd wedi’i osod ar y wal yn yr ystafell, a gallwch ei gysylltu â gliniadur gyda chebl HDMI.

Gwe-gamera Obsbot ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

Gwe-gamera diffiniad uchel   (4K)a meicroffon gyda golygfa 90gradd ac awto-olrhain dewisol.

Da ar gyfer recordio cyflwyniadau fideo neu gyflwyno mewn cyfarfodydd – gellir gosod yr Obsbot i olrhain a dilyn y prif siaradwr.  Hefyd mae’n dda i ymuno â chyfarfodydd hybrid bach (hy  3 neu 4o bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein) oherwydd golygfa  90 gradd ac ansawdd y meicroffon.

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar.

Wedi’i gynnwys am ddim fel rhan o logi unrhyw ystafell, mae yma nifer o Obsbots ar gael i’w benthyg yn wythnosol:  £10 yr wythnos, rhaid eu harchebu o flaen llaw.

Bar Fideo Studio X30 ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Bar Fideo popeth-mewn-un cryno diffiniad uchel (4K) gyda gwe-gamera a meicroffon. Yn fwy na gwe-gamera Obsbot, mae gan y Studio X30 olygfa 120 gradd ac mae’n fframio grwpiau yn awtomatig. 

Mae’r Studio X30 yn dda ar gyfer ymuno â chyfarfodydd hybrid maint canolig (hy hyd at 6 bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein). Bydd yn fframio grwpiau yn awtomatig ac mae’n cynnig ystod clywed 15troedfedd gyda’r meicroffon, sy’n cynnig profiad cyfarfod proffesiynol. 

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar.

Rhaid archebu o leiaf wythnos ymlaen llaw – gofynnwch am Far Fideo Studio X30 wrth archebu ystafell. £20 am hanner diwrnod.

Gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig

Mae gliniadur ar gael i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn rhad ac am ddim.

Rydym hefyd yn llogi setiau o 5 neu 10 gliniadur ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Mae setiau gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig a rhaid eu harchebu o leiaf wythnos ymlaen llaw, a chyn belled ymlaen llaw â phosib i sicrhau argaeledd.  £50 y dydd am hyd at  5 gliniadur; £100 y dydd am rhwng  5 a 10 gliniadur.

Benthyciadau DigiTech: iPads, Chromebooks, gwe-gamerâu a thaflunwyr – benthyg a mynd adref gyda chi

Rydym hefyd yn cynnig offer i chi ei fenthyg a mynd adref gyda chi, gan gynnwys iPads, chromebooks, gwe-gamerâu, a chitiau taflunydd digidol. Ewch i’n tudalen Benthyciadau DigiTech am ragor o wybodaeth.