Mae maes newydd cyffrous o StoriPowys ar fin cael ei lansio ym mis Mehefin.
Sef casgliad dethol o ddelweddau o gasgliadau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau Powys, gyda disgrifiadau diddorol am hanes yr ardal.
Am y tro cyntaf, bydd modd chwilio am yr adnoddau hyn fel grŵp. Gall ymwelwyr ddilyn y themâu sydd wedi eu curadu neu archwilio gan ddefnyddio categorïau ehangach.
Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffau, taflenni, dogfennau hanesyddol, gweithiau celf, canfyddiadau archeolegol, teganau, dillad, a phopeth rhyngddyn nhw.
Gellir prynu’r delweddau, neu eu cyflwyno i rywun annwyl, a chaiff defnyddwyr eu hannog i adael sylwadau, neu ychwanegu geiriau allweddol a thagiau emosiynol.