Ddydd Llun 29 Ebrill, cafwyd datganiad cyffrous yn y Strand, Llanfair-ym-Muallt, o’r myth Clasurol o Wlad Groeg, ‘Helios’. Cynhyrchiad un dyn oedd hwn gyda’r awdur a’r actor Phil Grainger, a adroddodd hen hanes Helios, mab duw’r Haul. Mae Phil Grainger a’i gyd-awdur Alexander Wright, wedi trawsblannu’r stori glasurol i leoliad modern a chreu gwead prydferth o gwmpas ffyrdd troellog Prydain wledig gan drawmwyo’r cymhlethdod o fyw yn y tirlun trefol, modern.
Mae Phil Grainger yn gerddor ac yn ddylunydd sain o Ogledd Swydd Efrog. Mae’n un o’r ddeuawd ‘Wright & Grainger’, sy’n ail-ddychmygu Mythau Groeg ac sydd wedi bod ar daith o gwmpas y byd gan gynnwys taith yn ddiweddar i Awstralia a Seland Newydd. Maen nhw wedi perfformio’r gyfres gyfan hyd yma yn Theatr Clwyd (Orpheus. Eurydice, Y Duwiau, Y Duwiau, Y Duwiau); yn ogystal â ffurfio partneriaeth gyda Theatr Clwyd ar gyfer rhyddhau eu profiad clywedol, ‘Hanner Dyn, Hanner Tarw’, yn ystod Pandemig Covid.
Daethpwyd â’r cymeriadau yn eu harddegau’n fyw yn brydferth gan eu creawdwyr, gan ymgysylltu ar adegau â’r gynulleidfa a oedd wedi eu cyfareddu gan y stori ledrithiol hon. Pwy yn y gynulleidfa na fyddai’n chwilfrydig gan y stori newydd, fywiog hon; stori oesol sy’n ailgydio mewn ieuenctid a’u taith anturus drwy fywyd? Cafodd soniaredd rhai o’r golygfeydd eu gosod allan yn brydferth gan y geiriau hyn.
‘Mae llanc yn byw hanner ffordd i fyny’r bryn.
Mae person yn ei arddegau ar drip ffordd i’r ddinas mewn car sydd wedi ei ddwyn.
Mae bachgen yn gyrru cerbyd, gan dynnu’r haul ar draws yr awyr.’
Cafodd y cynhyrchiad ei hyrwyddo gan Gyfeillion Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt, a’i drefnu gyda help a chymorth sefydliad celfyddydau lleol Llanfair-ym-Muallt, a Moca Cymru, drwy gynllun Noson Allan sy’n cael ei redeg gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Moca Cymru yn Fenter Gymdeithasol sy’n rhedeg gweithdai gyda Hyrwyddwyr Ifanc, sef grŵp o bymtheg sy’n cynnwys pobl ifanc 15, 11 – 14 oed sy’n helpu i ddenu digwyddiadau Noson Allan i’r ardal i fynd i’r afael ag agweddau o leisant i bobl yn eu harddegau yn Llanfair-ym-Muallt. Roedd raffl a lluniaeth yn gynwysedig yn y digwyddiad cymunedol gyda’r nos hwn, a chafwyd rhoddion i Gyfeillion Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt i helpu i godi arian ar gyfer gweithgareddau ac adnoddau yn y llyfrgell leol.
“ Rodd hi’n noson hudolus o adrodd straeon theatrig yn Theatr Neuadd y Strand yng nghalon Llanfair-ym-Muallt. Yr hyn oedd mor arbennig oedd y gymysgedd hyfryd ymhlith y gynulleidfa. Roedd pobl o bob oed, ifanc a hen, a phob cefndir a diddordeb wedi dod i weld y sioe arloesol hon. Dyna beth sydd mor bwysig i ni yn Llanfair-ym-Muallt, yw parhau i gymysgu mewn grwpiau newydd, ar gyfer mathau newydd o ddigwyddiadau a bod yn agored a chael cyfleodd i ddysgu a gweld gwaith newydd ac actorion a theatr byw yn ein tref ni ein hun!”
Blue MacAskill – Trysorydd – Menter Gymdeithasol MocaCymru ar gyfer Prosiectau Creadigol Llanfair-ym-Muallt.
“Mae’r Cyfeillion yn bodoli er mwyn hyrwyddo darpariaeth gwasanaeth llyfrgell yn Llanfair-ym-Muallt a’r ardal leol a thrwy weithio ar y cyd ag eraill, fel Moca Cymru, gallwn ddangos fod y llyfrgell yn berthnasol i bob oedran ac nid yn ymwneud â llyfrau yn unig.”
Dyfyniad gan David Sutherland – Trysorydd Cyfeillion y Llyfrgell