Llyfrgell yn achub y dydd (arbennig)

7 Awst 2024

Mae Gardd Bywyd Gwyllt a Lles Llyfrgell Ystradgynlais yn rhoi llawenydd i’r gymuned, gyda rhosod a llu o fytholion yr haf yn eu blodau llawn.

Dywedodd newydd-ddyfodiad i’r ardal: “Roeddwn i’n teimlo’n isel iawn ac o dan straen pan ddes i mewn, ond gallaf weld pam rydych chi’n dweud bod yr ardd yn dda ar gyfer lles a bywyd gwyllt. Ar ôl awr yn eistedd yn mwynhau’r blodau a’r adar yn canu, rwy’n teimlo’n hollol wych.”

Y gweithgaredd gwyliau cyntaf i’r plant oedd taith o gwmpas y ffrwythau a’r llysiau a dyfwyd i’r gymuned i helpu eu hunain, gan gynnwys tomatos, corbwmpenni, ciwcymbrau, ffa rhedeg a mefus, a ddilynwyd gyda gweithgaredd plannu hadau. Ychydig wythnosau’n ôl, cafodd yr adar wledd dda o geirios!

Yn wir, fe wnaeth yr ardd ‘achub y dydd’ i un o’n hymwelwyr arbennig yn ddiweddar…

Gyda’r Cofrestrydd wedi’i lleoli yn Llyfrgell Ystradgynlais, defnyddir y gangen yn aml fel lleoliad priodas. Mewn priodas ym mis Gorffennaf eleni, roedd y briodferch i fod cyrraedd unrhyw funud, pan sylweddolodd mam y briodferch nad oedd tusw i’r briodferch gario! Heb unrhyw drefnwr blodau gerllaw, roedd angen rhywfaint o feddwl creadigol…

Yn ffodus, roedd gardd y llyfrgell yn edrych yn arbennig o brydferth ar y pryd, felly llwyddodd staff i fachu’r secateurs a thorri ambell lygaid y dydd, lili a rhosod (“Storïwr” a “Boneddiges Shalott”, i fod yn fanwl gywir – mae gan holl rosod y llyfrgell thema lenyddol); ychydig o bapur meinwe o adnoddau Gweithgareddau’r Plant a rhuban bach o’r blwch Grŵp Gwnïo i gwblhau’r cyfanwaith, a chydag eiliadau i’w sbario, cyfarchwyd y briodferch a’r forwyn anrhydeddus gyda dau dusw hyfryd.

Nid yn aml y mae ymholiad cwsmer yn cynnwys staff mewn cymaint o hwyl greadigol!