Wythnos Addysg Oedolion: 9 – 15 2024
Ydych chi am ddychwelyd i addysg? P’un a ydych chi eisiau dysgu Saesneg, ennill sgiliau newydd, neu ddysgu am hwyl yn unig, ry’n ni yma i chi! Ymunwch â ni ar draws Powys am amrywiaeth o ddosbarthiadau a darganfod mwy am yr hyn ry’n ni’n ei gynnig.
Mae Grŵp Colegau NPTC yn cynnal cyrsiau ar eu campysau yn Aberhonddu, y Drenewydd a’r Trallwng, gan gynnwys:
Cyngor a Chyfarwyddyd am Addysg Oedolion
- Cyllidebu/Bwyta’n Iach
- Busnes
- Arlwyo
- Datblygu Hyder
- Adeiladu
- Celfyddydau Creadigol Gweledol a Pherfformio
- Sgiliau Digidol
- Llythrennedd Digidol
- Technoleg Ddigidol
- Peirianneg
- Gweithgareddau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
- Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol
- Lletygarwch
- Rheolaeth
- Sgiliau Rhifedd
- Ffotograffiaeth
- Gwyddoniaeth
Digwyddiadau Arbennig:
📅 10 Medi – Libanus, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Diwrnod blasu Bywyd Gwyllt yn y Gymuned. Cyfle i drochi eich hun ym myd natur!
📅 12 Medi – Craig y Nos, Bannau Brycheiniog: Diwrnod cyflwyno Gweithgareddau Awyr Agored. Cyfle i ddarganfod yr awyr agored gwych mewn lleoliad hwyliog ac addysgol!
📅 24 Medi, 10 am – 12 pm – Coleg Bannau Brycheiniog: Sesiwn Blasu Garddwriaeth. Perffaith ar gyfer garddwyr brwdfrydig a’r rhai sydd â diddordeb mewn arferion cynaliadwy.