Wythnos Addysg Oedolion yn Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau Powys

4 Medi 2024

Wythnos Addysg Oedolion yn Llyfrgelloedd Powys

Rhwng Medi 9 – 15 2024 mae cyfle gwych i chi ddarganfod amrywiaeth o adnoddau a gweithgareddau.

Dyma flas cyflym o’r hyn y gallwch edrych ymlaen ato:

📚 Ar gyfer Aelodau’r Llyfrgell:

Benthyg Llyfrau: Gan gynnwys llyfrau llafar ar CD.

Gwasanaethau Ar-lein: Cadw ac adnewyddu eitemau drwy’r catalog.

Lawrlwythiadau Digidol: Mynediad eLyfrau, e-lyfrau Llafar ac e-gylchgronau ar eich dyfeisiau.

💻 I Bawb:

Mynediad i Gyfrifiadur a Wi-Fi am ddim: (Mae angen caniatâd rhiant ar gyfer plant dan -16oed)

Ymchwil Hanes Teulu: Mynediad am ddim i Ancestry o gyfrifiaduron llyfrgell neu drwy Wi-Fi am ddim.

Access2Research: Defnyddiwch yr adnodd hwn ar gyfrifiaduron llyfrgell.

Mae’r fenter hon yn dod â llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ynghyd i gynnig cyfuniad unigryw o’r celfyddydau, treftadaeth a dysgu.

📚 Yr hyn a Gynigiwn:

  • Nofelau ffuglen, ffeithiol a graffig AM DDIM
  • Defnydd cyfrifiadurol a mynediad i’r we AM DDIM
  • E-lyfrau a llyfrau e-lafar AM DDIM
  • Llyfrau AM DDIM i gefnogi dyslecsia
  • Digwyddiadau a gweithgareddau yn y llyfrgell ac ar-lein
  • Her Ddarllen yr Haf
  • Staff llyfrgell cyfeillgar a defnyddiol
  • Lle diogel i gwrdd â ffrindiau

A chofiwch, ni fydd yn rhaid talu unrhyw ddirwyon os byddwch yn anghofio dod â’ch llyfrau yn ôl yn brydlon!

Dathlu Wythnos Addysg Oedolion gydag Amgueddfeydd Powys!

Rhwng Medi 9 – 15 2024, dewch i ymuno â ni i ddathlu Wythnos Addysg Oedolion drwy ddarganfod y gwaith anhygoel y mae Amgueddfeydd Powys yn eu gwneud i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein sir. Mae yna arddangosfeydd diddorol a chewch gyfle i ddysgu mwy am ein hanes yn yr amgueddfeydd gwych hyn:

Amgueddfa Llanidloes

Amgueddfa Y Lanfa

Amgueddfa Sir Faesyfed

Y Gaer Museum Brecon

Dathlu Wythnos Addysg Oedolion gydag Archifau Powys!

Ymunwch â ni rhwng Medi  9 – 15 2024 i archwilio canrifoedd o hanes yn Archifau Powys, yr ystorfa swyddogol ar gyfer sir Powys. Mae ein casgliadau’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac maent yn berffaith ar gyfer pob math o ymchwil. Gallwch fynd i weld dogfennau trwy ymweld â’n hystafell chwilio, neu fanteisio ar ein gwasanaeth ymchwil os na allwch fynd draw.

🔍 Archwilio Casgliadau

Archwiliwch Ein Casgliadau a chael blas unigryw o ddreftadaeth ddiwylliannol Powys drwy ein casgliadau helaeth. Dechreuwch eich taith yma:

Archwilio Casgliadau

📚 Gwasanaeth Ymchwil

Gwasanaeth Ymchwil – Ydych chi angen help gyda’ch ymchwil? Rydym yn darparu gwybodaeth am ddim am ein cofnodion a’n ffynonellau. Ar gyfer chwiliadau manwl, mae ein tîm arbenigol yn barod i’ch cynorthwyo am ffi fechan.

Gwasanaethau Ymchwil