Rhoi ac Adnau Cofnodion

Byddwn yn falch o dderbyn dogfennau ar gyfer eu cadw’n ddiogel yn Archifau Powys, os ydynt o fewn cylch gwaith ein polisi casgliadau.

Byddwn yn falch o dderbyn dogfennau ar gyfer eu cadw’n ddiogel yn Archifau Powys, os ydynt o fewn cylch gwaith ein polisi casgliadau.

Gellir cyflwyno cofnodion naill ai fel rhodd, neu ar sail benthyciad tymor hir. Mae’r perchennog yn cael derbynneb a chopi o’r catalog cyn gynted ag y bydd wedi’i gwblhau.

Bydd y dogfennau hyn yn cael eu cadw’n ddiogel mewn amgylchedd sy’n cael ei reoli er mwyn ceisio’u cadw’n barhaus. Byddant ar gael i’r cyhoedd eu gweld dan oruchwyliaeth ofalus.