Canllawiau ar Gyfer yr Ystafell Chwilio
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad â’n swyddfa archifau, ac y bydd eich gwaith ymchwil yn werth chweil. Er mwyn gallu diogelu’r archifau ar gyfer ymchwilwyr yn y dyfodol, mae rhai gweithdrefnau y byddem yn ddiolchgar petaech yn cydymffurfio â hwy:
- Peidiwch â dod â bwyd neu ddiod i mewn i’r ystafell chwilio.
- Defnyddiwch y bachau sydd yno i hongian eich cot. Bydd eich bag yn cael ei gloi i ffwrdd yn ddiogel ar ôl i chi gael popeth sydd ei angen arnoch.
- Dim ond pensiliau y dylech eu defnyddio yn yr ystafell chwilio – nid yw’n bosibl gwaredu ag inc oddi ar ddogfennau gwreiddiol heb eu difrodi.
- Gallwch fynd ati i edrych ar ficroffilm, microfiche, llyfrau astudiaethau lleol a’r catalog ar eich pen eich hunain.
- Pan fyddwch wedi canfod cofnod yn y catalog yr ydych yn dymuno edrych arno, llenwch y slip gwneud cais a’i roi i’r cynorthwy-ydd ystafell chwilio. Gallwch gael hyd at 4 dogfen ar un adeg.
- Yn anffodus, mae rhai dogfennau mewn cyflwr mor wael fel nad yw hi’n bosibl eu cael nhw allan.
- Rydym yn gwneud ein gorau i gael hyd i’r dogfennau mor gyflym ag sy’n bosibl, ond bydd oedi’n anochel, yn enwedig pan fo’r ystafell chwilio yn brysur.
- Bydd staff yn eich cynghori am y defnydd o bwysau neu gymhorthion i ddal dogfennau’n agored, clustogau i gefnogi cyfrolau, a thaflenni plastig ar gyfer mapiau.
- Byddwch yn ofalus iawn wrth drafod dogfennau, yn enwedig y rheini sydd wedi’u plygu neu sydd â selnodau.
- Os yw’r dogfennau’n fudr iawn, gellir darparu menyg cotwm.
- Ceisiwch gadw tudalennau rhydd yn y drefn y cawsant eu cyflwyno i chi.
- Gellir defnyddio gliniaduron a chamerâu digidol yn ein hystafelloedd chwilio, ond gofynnwch i staff cyn eu defnyddio. Os ydych am gymryd lluniau o ddogfennau yn ein hystafell chwilio bydd angen i chi brynu trwydded ffotograffiaeth.
- Peidiwch â symud unrhyw beth o’r ystafell chwilio heblaw am eich eiddo, ac unrhyw lungopiau yr ydych wedi’u prynu.