Hysbysiad Preifatrwydd i Lyfrgelloedd
Aelodaeth Llyfrgell
Er mwyn darparu Gwasanaethau Llyfrgelloedd i chi, rydym yn casglu ac yn cadw rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi. Bydd hyn yn cynnwys:
- eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni/ystod oedran;
- cofnod o eitemau a fenthycwyd;
- cofnod o eitemau y gofynnwyd amdanynt;
- unrhyw ddirwyon a gafwyd.
Mae angen i ni ddefnyddio’r wybodaeth er mwyn darparu gwasanaethau benthyg i chi a phobl Powys fel rhan o wasanaethau cyhoeddus y Cyngor.
Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth hyn
Os rhowch chi eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn, fe wnawn gysylltu â chi yn y dull o’ch dewis i roi gwybod i chi pan rydym yn disgwyl eitemau nôl neu fod eitemau yma’n barod i’w casglu.
Oni bai i chi roi caniatâd penodol, ni fyddwn yn anfon e-byst neu gylchlythyron marchnata.
Rydym yn defnyddio eich dyddiad geni fel eich bod chi’n derbyn y math cywir o gyfrif benthyg e.e. plentyn neu oedolyn, ac mae hyn yn rheoli beth gallwch ei fenthyg, ac os ydym yn rhoi dirwy am unrhyw eitemau hwyr.
Pwy sy’n gallu gweld y wybodaeth hyn
Mae’r data sydd gennym amdanoch chi’n cael ei gadw ar gronfa ddata ddiogel sy’n cael ei rannu gyda gwasanaethau llyfrgelloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Bydd eich gwybodaeth chi’n cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd i chi gan Lyfrgelloedd Powys.
Mae’n bosibl y bydd cyflenwr y system feddalwedd Rheoli Llyfrgelloedd yn gallu gweld y data hwn, ond yng nghyd-destun gweinyddu a chefnogi’r system.
Fel arfer, ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth o’r System Rheoli Llyfrgelloedd gyda sefydliadau eraill heb eich caniatâd chi, oni bai fod rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, er diogelwch y cyhoedd, neu i atal y risg o niwed.
Cywirdeb ein data
Mae’n bwysig fod gennym wybodaeth gywir amdanoch chi. Os bydd unrhyw fanylion yn newid, cysylltwch â ni mor fuan â phosibl er mwyn i ni ddiweddaru eich cofnodion.
Byddwn yn dileu eich data os na fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau am 3 blynedd, heblaw bod yna eitemau i’w dychwelyd ar eich cofnod.
Gwybodaeth i ddefnyddwyr cyfrifiaduron y llyfrgell
Pan fyddwch yn defnyddio cyfrifiaduron llyfrgelloedd, rydym yn cofnodi’r dyddiad a’r amser y gwnaethoch eu defnyddio, ynghyd â’ch enw neu rif y cerdyn llyfrgell.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hyn i reoli archebion i ddefnyddio’r cyfrifiaduron.
Oherwydd bod cwsmeriaid yn gallu defnyddio’r we, mae cyfrifoldeb arnom i atal ymddygiad anweddus, anghyfreithlon neu fygythiol. Ar ddechrau pob sesiwn ar gyfrifiadur, fe welwch ein Polisi ar Ddefnydd Derbyniol, sydd i’w weld yma.
Os ydyn ni’n credu bod y defnydd o’r we’n torri ein Polisi ar Ddefnydd Derbyniol, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym ar y sesiwn (dyddiad ac amser) i ofyn am restr o’r gwefannau rydych wedi bod arnynt.
Os cawn gais gan yr Heddlu, gallwn hefyd roi manylion amserau’r sesiynau a’r gwefannau rydych wedi bod arnynt.
Fel arfer, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu o system reoli cyfrifiaduron ar ôl blwyddyn. Os ydych wedi cael eich atal rhag defnyddio gwasanaethau’r llyfrgell, bydd eich manylion yn aros ar y gronfa ddata tu hwnt i’r cyfnod hwn er mwyn eich atal rhag eu defnyddio eto.
Argraffu oddi ar ein Cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus
Pan fyddwch yn argraffu oddi ar ein cyfrifiaduron cyhoeddus, mae’r system Rheoli Argraffu yn anfon copi delwedd o’r ddogfen i’r meddalwedd Rheoli Argraffu ar Gyfrifiadur Gweinyddu’r Llyfrgell yn barod i staff ei argraffu i chi.
Bydd y ddogfen yn cael ei dileu’n awtomatig ar ddiwedd y dydd, neu gall staff ei dileu ar unwaith i chi ar gais.
Argraffu trwy Wi-fi
Gallwch argraffu’n ddi-wifr o’ch dyfais eich hunan trwy ddefnyddio ein Gwasanaethau Argraffu trwy’r Cwmwl neu Wi-Fi.
- ‘Argraffu Wifi’ yw pan fyddwch mewn llyfrgell ac yn cysylltu â Wi-Fi Powys – dewiswch yr argraffydd ar gyfer eich llyfrgell.
- ‘Argraffu trwy’r Cwmwl’ sydd ar gael o unrhyw le trwy wefan Argraffu’r Cwmwl – mewngofnodwch gyda’ch rhif cerdyn llyfrgell a PIN, ac uwchlwytho dogfen trwy’r dudalen we.
Pan fyddwch yn argraffu dogfen gydag Argraffu Wifi a Chwmwl, mae copi delwedd o’ch dogfen yn cael ei anfon at gyfrifiadur Gweinyddu eich Llyfrgell trwy system trydydd parti. Mae copi o’ch dogfennau yn bodoli ar weinyddydd y darparwr gwasanaeth am gyn hired ag y mae’n cymryd i’w lawrlwytho’n awtomatig i’r cyfrifiadur Gweinyddu, ac yna caiff ei ddileu’n awtomatig. Os na fydd dogfen yn cael ei lawrlwytho am unrhyw reswm, caiff ei dileu’n awtomatig wedi 14 diwrnod. Ni fydd y darparwr gwasanaeth yn gweld nac yn cael mynediad at eich dogfennau.
Mae dogfennau a lawrlwythir i gyfrifiaduron Gweinyddu’r Llyfrgell yn cael eu dileu’n awtomatig wedi uchafswm o 48 awr, neu gall staff eu dileu ar unwaith i chi ar gais.
Gwybodaeth bellach
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn disgrifio’r data sydd gan wasanaeth llyfrgelloedd.
Am ragor o wybodaeth ar sut mae Cyngor Sir Powys yn diogelu eich data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Powys