Sialens Ddarllen yr Haf

Ymunwch â Llyfrgelloedd Powys am lawer o hwyl yr haf hwn!

Sialens Ddarllen yr Haf

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei gynnal dros wyliau’r haf ledled y DU. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol Yr Asiantaeth Ddarllen, ac mae’n cael ei gyflwyno gyda chymorth rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus y DU, dyma’r ymgyrch darllen am ddim mwyaf yn y DU ar gyfer plant oedran cynradd.

Mae’r Sialens yn cyrraedd dros 700,000 o deuluoedd bob blwyddyn, yn cymell plant i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf, ac yn eu helpu i gynnal eu sgiliau darllen a’u hyder.

Marvellous Makers Summer Reading Challenge 2024 – The Reading Agency

Crefftwyr Campus

Bob blwyddyn mae gan Sialens Ddarllen yr Haf thema newydd. Ar gyfer 2024, mae’r Asiantaeth Ddarllen wedi ymuno â Create, elusen flaenllaw sy’n dod â’r celfyddydau creadigol i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, i greu ‘Crefftwyr Campus’, sialens sy’n ymwneud â chreadigrwydd.

O ddawns i arlunio, modelu sothach i gerddoriaeth, mae gan Grefftwyr Campus rywbeth at ddant pawb!

Bydd plant sy’n cymryd rhan yn yr Sialens yn cwrdd â’r Crefftwyr Campus, clwb creadigol sy’n gwneud pethau anhygoel ar gyfer gŵyl (ffuglennol) yn eu llyfrgell leol. Byddan nhw’n darganfod bod Tails (wiwer ddireidus) wedi cael ei gweld yn y clwb creadigol yn ddiweddar, ac mae rhai gwrthrychau wedi mynd ar goll o flwch offer creadigol y clwb…

Ewch i ymweld â’ch llyfrgell leol

Mae angen i bob plentyn ddarllen 6 llyfr dros wyliau’r haf. Maent yn gallu ymweld â’r llyfrgell leol lle mae dewis eang o lyfrau ar gael iddynt neu cofrestru ar-lein a darllen y llyfrau sydd ganddynt adref, neu unrhyw un o’n e-lyfrau i blant.

Bydd y rhai sy’n cwblhau’r Sialens n derbyn medal a thystysgrif, tale nofio i’r teulu am dim a bydd eu henwau’n cael eu cynnwys mewn raffl.

Tudalen Facebook Plant

Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn annog teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd am hwyl dros wyliau’r Haf. Byddwn yn cael gweithgareddau ar ein Tudalen Facebook Plant , yn ogystal â digwyddiadau yn rhai o’n llyfrgelloedd.

Holwch eich cangen leol am fwy o wybodaeth.