Prawf Theory Test Pro

Ymarfer ar gyfer eich prawf theori gyrru.

Mae Theory Test Pro yn efelychiad ar-lein realistig o brawf theori gyrru’r DU.

Gallwch gael mynediad at Theory Test Pro am ddim yn eich llyfrgell leol, a gall aelodau’r llyfrgell fewngofnodi o gartref gan ddefnyddio’r rhif ar gefn eich cerdyn llyfrgell.

Mae Theory Test Pro yn cynnwys cwestiynau swyddogol i ymarfer ar gyfer y prawf, clipiau fideo i’ch helpu i adnabod peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr. Ymarfer ar gyfer prawf yn y car, ar feic modur, ADI, lori nwyddau ysgafn a cherbydau sy’n cludo teithwyr.