Caneuon a Rhigymau i Fabanod a Phlant Bach

Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus am ganu caneuon a rhigymau gyda’ch plentyn, efallai bydd y fideos hyn yn help.

Mae rhannu caneuon, rhigymau a llyfrau gyda phlentyn yn hwyl! Mae’n amser am agosrwydd, chwerthin a siarad gyda’ch gilydd ac mae hefyd yn gallu rhoi dechrau da i blant mewn bywyd a’u helpu i ddod yn ddarllenwyr gydol oes.

Mae hwiangerddi’n darparu cyfleoedd dysgu i fabanod a phlant bach ac yn aml gall fod yn sbardun i oriau o chwarae creadigol, penagored.

Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus am ganu caneuon a rhigymau gyda’ch plentyn, efallai bydd y fideos hyn yn help.

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd yr amser i lenwi’r ffurflen werthuso isod.