Mae Cyngor Sir Powys wrthi’n paratoi i symud llyfrgell Llandrindod i mewn i Amgueddfa Sir Faesyfed dros y misoedd nesaf.
Bydd Amgueddfa Sir Faesyfed yn cau i ymwelwyr Dydd Sadwrn 2 Tachwedd wrth i ni baratoi ar gyfer y symud. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni symud rhai o arddangosfeydd yr amgueddfa a’u hailgynllunio er mwyn creu digon o le ar gyfer y llyfrgell.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Lorna Steel, Curadur, Amgueddfa Sir Faesyfed
lorna.steel1@powys.gov.uk / 01597 824513