Mae tri theclyn arlein newydd wedi’u lansio i helpu sectorau celfyddyd, diwylliant, dysgu a threftadaeth Powys i arddangos digwyddiadau a chysylltu â’r gymuned.
Mae Cyngor Sir Powys wedi lansio calendr Beth Sydd Ymlaen, Cyfeirlyfr Creadigol, a Phecyn Cymorth Creadigol ar wefan StoriPowys, llwyfan sy’n ymroi i gysylltu pobl â diwylliant, dysgu, treftadaeth a’r celfyddydau ym Mhowys.
Wedi eu cynllunio i fod yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio, mae’r teclynnau yn helpu artistiaid unigol, gweithwyr llawrydd, perfformwyr a sefydliadau diwylliant a threftadaeth i hyrwyddo eu digwyddiadau ac ymgysylltu â’r gymuned leol.
Bydd y llwyfannau newydd yn cynnwys:
- Calendr Beth Sydd Ymlaen: Calendr canolog o ddigwyddiadau ar gyfer Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd, Archifau a Chelfyddydau Powys, lle gall trigolion ac ymwelwyr chwilio yn ôl lleoliad, oedran a math. Gall pobl greadigol ychwanegu digwyddiadau’n hawdd drwy ffurflen arlein.
- Cyfeiriadur Creadigol: Llwyfan penodol i Bowys sy’n cysylltu pobl greadigol yn lleol. Mae’n helpu sefydliadau i ddod o hyd i artistiaid a phostio am gyfleoedd gan alluogi gweithwyr llawrydd i arddangos eu gwaith a darganfod swyddi. Gall pobl greadigol a sefydliadau ychwanegu proffil yn hawdd drwy ffurflen arlein.
- Pecyn Cymorth Creadigol: Hwb adnoddau wedi’i guradu ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol, diwylliannol a threftadaeth, sy’n cynnwys dolenni ar godi arian, eiriolaeth, marchnata, rheoli digwyddiadau, a mwy.
Meddai’r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ddiogelach: “Mae llwyfannau newydd StoriPowys yn ychwanegiadau gwerthfawr i dirwedd ddiwylliannol Powys, gan gynnig ffordd hawdd i drigolion ac ymwelwyr archwilio’r amrywiaeth gyfoethog o ddigwyddiadau a busnesau artistig a diwylliannol ledled y sir, gan roi llwyfan i bobl llawrydd a sefydliadau i arddangos eu sgiliau a chysylltu.
“Rwy’n annog sefydliadau celfyddydol a gweithwyr llawrydd ledled Powys i groesawu’r llwyfan hwn, gan helpu i’w wneud yn hwb canolog ar gyfer darganfod digwyddiadau, rhwydweithio a chysylltu, a dathlu ein cymuned fywiog.”
Am fwy o wybodaeth, ebostiwch celf@powys.gov.uk