Disgrifiad o’r rôl fel Gwirfoddolwr Addysg a Gweithgareddau i Blant – Llyfrgell y Drenewydd

Fel Gwirfoddolwr Addysg a Gweithgareddau i Blant, byddwch yn cefnogi’r Swyddog Addysg a Mynediad (y Gaer)/ Tîm Curadurol (Amgueddfa Sir Faesyfed)/ Llyfrgellydd Cangen (Y Lanfa a llyfrgelloedd eraill) i ddarparu gweithdai/gweithgareddau diddorol ar gyfer partïon ysgol a/neu digwyddiadau/gweithgareddau untro, rheolaidd i’r teulu yn y gymuned.

Tasgau:

  • Gall eich rôl gynnwys rhai, neu bob un, o’r canlynol:
  • Cefnogi’r gwaith o baratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ffurfiol ar gyfer grwpiau ysgol. Gall hyn hefyd gynnwys gweithio gyda grwpiau ieuenctid ac oedolion ag anawsterau dysgu.
  • Cefnogi’r gwaith o gyflwyno digwyddiadau i’r teulu yn y gymuned.
  • Ymgymryd â thasgau ymchwil i helpu gyda dylunio gweithgareddau crefft a pharatoi eitemau arddangos.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o osod a thynnu adnoddau ar ôl digwyddiad/gweithgaredd.
  • Croesawu a chynorthwyo gyda chofrestru cyfranogwyr mewn gweithgareddau/digwyddiadau
  • Arddangos gweithgareddau unigol a goruchwylio grwpiau bach o blant.
  • Tynnu lluniau a derbyn ffurflenni caniatâd gan ymwelwyr/gwesteion/cyfranogwyr gweithgaredd.
  • Helpu i fonitro ansawdd addysg a gweithgareddau i blant trwy ymgysylltu â’r cyhoedd a ffurflenni adborth.
  • Ymgymryd ag unrhyw dasgau sy’n ymwneud â dysgu i blant a mynediad yn unol â chais rhesymol y Swyddog Addysg a Mynediad/ Tîm Curadurol/ Llyfrgellydd Cangen.

Nodweddion:

  • Dull cyfeillgar a chroesawgar gyda sgiliau pobl rhagorol.
  • Hyblygrwydd a chreadigrwydd.
  • Byddai profiad blaenorol o addysgu neu weithio gyda phlant o fantais.

Mae angen tystysgrif DBS manylach ar gyfer y rôl hon.

Hyfforddiant:

Darperir hyfforddiant gan y Swyddog Addysg a Mynediad/ Tîm Curadurol/ Llyfrgellydd Cangen. Bydd angen i chi hefyd gwblhau cyrsiau hyfforddi ar-lein Cyngor Sir Powys mewn Iechyd a Diogelwch gydag Ymwybyddiaeth Tân; Codi a Chario; Diogelu a Seiberddiogelwch a GDPR.

Ymrwymiad Amser:

Ar gyfer ymweliad ysgol (lle bo’n berthnasol), yn ôl yr angen, gan ddibynnu ar y math o drefniant. Gellircynnal digwyddiadau/gweithgareddau cymunedol rheolaidd (e.e. Amser Stori i blant bach neu Glwb Lego ar ôl ysgol) yn ystod y dydd, yn yr wythnos neu ar benwythnosau. Mae digwyddiadau/gweithgareddau untro fel arfer yn digwydd yn ystod y dydd yn yr wythnos ac ar benwythnosau yn ystod tymor yr ysgol a’r gwyliau. Mae sesiynau gwirfoddoli ynpara tua 1-6 awr, gan ddibynnu ar y digwyddiad/gweithgaredd.

Oriau Agor

dydd Llun
09:00 – 17:00
dydd Mawrth
09:00 – 18:00
dydd Mercher
Ar gau
dydd Iau
09:00 – 17:00
dydd Gwener
08:00 – 16:00
dydd Sadwrn
09:30 – 13:00
dydd Sul
Ar gau
Llyfrgell Y Drenewydd
Park Lane
Y Drenewydd
Powys
SY16 1EJ