Swydd Ddisgrifiad Gwirfoddolwr Cymorth Digidol – Llyfrgell Llanandras

Darparu cymorth i unigolion sy’n defnyddio’r llyfrgell sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau o ran defnyddio technoleg ddigidol, a chefnogi defnyddwyr sydd efallai angen defnyddio dulliau digidol i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chwsmeriaid ar sail ad hoc 1:1 ac mae rhai’n arwain sesiynau a gynhelir bob wythnos.

Tasgau:

Gall y rôl olygu cefnogi unigolion sy’n defnyddio’r llyfrgell i wneud rhai, neu bob un o’r canlynol:

  • Dysgu am sylfeini a swyddogaethau ar ddyfeisiau llaw iOS ac Android a chyfrifiaduron sy’n defnyddio Windows.

  • Defnyddio adnoddau’r llyfrgell ar-lei n- e-lyfrau, llyfrau clywedol ac ati

  • Cysylltu dyfeisiau â Wi-Fi

  • Defnyddio apiau negeseua megis Whatsapp, Messenger

  • Sefydlu cyfrif ebost a deall ei swyddogaethau sylfaenol

  • Defnyddio camera a meddalwedd cyfathrebu sy’n rhan o ddyfais megis Skype, Zoom, Facetime, ac ati

  • Dysgu am ddiogelwch personol ar-lein

  • Defnyddio platfformau ar-lein ar gyfer gwasanaethau bancio, siopa, archebu apwyntiadau ac ati

  • Defnyddio’r rhyngrwyd i gael hyd i wybodaeth a meithrin ymwybyddiaeth ynghylch sut i asesu a yw gwefan yn ddibynadwy ai peidio

Nodweddion:

  • Gwybodaeth ddigonol o a hyder o ran defnyddio dyfeisiau iOS ac Android, a Windows

  • Dull cyfeillgar a chroesawgar gyda sgiliau pobl rhagorol

  • Sgiliau gwrando da, amynedd a doethineb

  • Gallu cyfleu cyfarwyddiadau’n glir – byddai profiad dysgu a/neu sgiliau cyflwyno yn fantais

  • Sgiliau da wrth ddatrys problemau

  • Hyblygrwydd a dibynadwyedd

  • Gallu gweithio heb oruchwyliaeth

Mae angen tystysgrif DBS manylach ar gyfer y rôl hon.

Hyfforddiant:

Does dim hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y rôl hon ond rhoddir cyngor ar yr adnoddau ar-lein/digidol sydd ar gael a sut i’w defnyddio. Hefyd bydd angen ichi gwblhau Hyfforddiant Tân, Iechyd a Diogelwch, Seiberddiogelwch a GDPR Cyngor Sir Powys ar-lein. Hwyrach y bydd gofyn cwblhau hyfforddiant Diogelu ar-lein os bydd eich rôl yn golygu gwirfoddoli gydag Oedolion Agored i Risg.

Ymrwymiad Amser:

Yn ddelfrydol 2 awr yr wythnos yn rheolaidd, ond mae posibilrwydd hefyd o sesiynau ad hoc, fel a phan fydd unigolyn yn gofyn am gymorth.

Oriau Agor

dydd Llun
Ar gau
dydd Mawrth
10:00 – 13:00 a 14.00 – 17.00
dydd Mercher
13:00 – 18.00
dydd Iau
15:00 – 17:00
dydd Gwener
10:00 – 13:00
dydd Sadwrn
10:00 – 13:00
dydd Sul
Ar gau
Llyfrgell Llanandras
Market Hall
Llanandras
Powys
LD8 2AD