Swydd Ddisgrifiad Gwirfoddolwr Cymorth Digidol – Llyfrgell Llandrindod
Darparu cymorth i unigolion sy’n defnyddio’r llyfrgell sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau o ran defnyddio technoleg ddigidol, a chefnogi defnyddwyr sydd efallai angen defnyddio dulliau digidol i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chwsmeriaid ar sail ad hoc 1:1 ac mae rhai’n arwain sesiynau a gynhelir bob wythnos.
Tasgau:
Gall y rôl olygu cefnogi unigolion sy’n defnyddio’r llyfrgell i wneud rhai, neu bob un o’r canlynol:
- Dysgu am sylfeini a swyddogaethau ar ddyfeisiau llaw iOS ac Android a chyfrifiaduron sy’n defnyddio Windows.
- Defnyddio adnoddau’r llyfrgell ar-lei n- e-lyfrau, llyfrau clywedol ac ati
- Cysylltu dyfeisiau â Wi-Fi
- Defnyddio apiau negeseua megis Whatsapp, Messenger
- Sefydlu cyfrif ebost a deall ei swyddogaethau sylfaenol
- Defnyddio camera a meddalwedd cyfathrebu sy’n rhan o ddyfais megis Skype, Zoom, Facetime, ac ati.
- Dysgu am ddiogelwch personol ar-lein.
- Defnyddio platfformau ar-lein ar gyfer gwasanaethau bancio, siopa, archebu apwyntiadau ac ati.
- Defnyddio’r rhyngrwyd i gael hyd i wybodaeth a meithrin ymwybyddiaeth ynghylch sut i asesu a yw gwefan yn ddibynadwy ai peidio.
Nodweddion:
- Gwybodaeth ddigonol o a hyder o ran defnyddio dyfeisiau iOS ac Android, a Windows
- Dull cyfeillgar a chroesawgar gyda sgiliau pobl rhagorol
- Sgiliau gwrando da, amynedd a doethineb
- Gwybodaeth ddigonol o a hyder o ran defnyddio dyfeisiau iOS ac Android, a Windows
- Gallu cyfleu cyfarwyddiadau’n glir – byddai profiad dysgu a/neu sgiliau cyflwyno yn fantais
- Sgiliau da wrth ddatrys problemau
- Hyblygrwydd a dibynadwyedd
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth
Mae angen tystysgrif DBS manylach ar gyfer y rôl hon.
Hyfforddiant:
Does dim hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y rôl hon ond rhoddir cyngor ar yr adnoddau ar-lein/digidol sydd ar gael a sut i’w defnyddio. Hefyd bydd angen ichi gwblhau Hyfforddiant Tân, Iechyd a Diogelwch, Seiberddiogelwch a GDPR Cyngor Sir Powys ar-lein. Hwyrach y bydd gofyn cwblhau hyfforddiant Diogelu ar-lein os bydd eich rôl yn golygu gwirfoddoli gydag Oedolion Agored i Risg.
Ymrwymiad Amser:
Yn ddelfrydol 2 awr yr wythnos yn rheolaidd, ond mae posibilrwydd hefyd o sesiynau ad hoc, fel a phan fydd unigolyn yn gofyn am gymorth.
Oriau Agor
The Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA