Gwirfoddoli Catalogio a Digideiddio – Archif Powys
Helpu i gatalogio a digideiddio ein casgliadau archifol i wella cadwraeth a hygyrchedd.
Tasgau:
Byddwch yn gweithio yn y Swyddfa Archifau yn Llandrindod:
- Ail-becynnu eitemau o’r casgliad at ddibenion cadwraeth
- Sganio a phrosesu dogfennau hanesyddol
- Catalogio casgliadau i dempled Word
Nodweddion:
- Gallu rhoi sylw mawr i fanylion
- Meddu ar sgiliau cyfrifiadurol da, yn ddelfrydol gyda phrofiad o ran mewnbynnu data.
- Brwdfrydig ac yn awyddus i ddysgu am gasgliadau’r archif.
Mae angen tystysgrif DBS manylach ar gyfer y rôl hon.
Hyfforddiant:
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael cyflwyniad sylfaenol gan gynnwys cyngor am Iechyd a Diogelwch, gwybodaeth gefndir am y sefydliad a thaith o amgylch yr adeilad (gan gynnwys cyfle i ddysgu am weithdrefnau gwacáu). Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn derbyn hyfforddiant sy’n benodol i’w rôl fel y bo’n briodol.
Ymrwymiad Amser:
Hanner diwrnod (bore neu brynhawn) neu un diwrnod yr wythnos. Er mai dim ond ar ddydd Iau a dydd Gwener y mae’r archif ar agor, mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy gydol yr wythnos i ddiwallu argaeledd pawb.
Oriau Agor
dydd Llun
Ar gau
dydd Mawrth
Ar gau
dydd Mercher
Ar gau
dydd Iau
09:30 – 17:00
dydd Gwener
09:30 – 17:00
dydd Sadwrn
Ar gau
dydd Sul
Ar gau