Diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed

Gwybodaeth am amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn, gan Gyngor Sir Powys.

Mae gan drefnwyr digwyddiadau gyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, gan sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn rhydd rhag niwed.

Dylai cyhoeddusrwydd ei gwneud yn glir ar gyfer pwy / beth yw oedran y digwyddiad ac ar gyfer pwy mae’n addas / anaddas, ac a oes angen iddynt fod yng nghwmni oedolyn.

Mewn digwyddiadau a fynychir gan blant, bydd angen oedolion sydd â phrofiad o weithio gyda nhw – er enghraifft, os bydd rhywun yn mynd ar goll neu’n cael ei wahanu oddi wrth ei warcheidwad neu ofalwr. Dylai oedolion y disgwylir iddynt weithio gyda phlant gael gwiriad DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Hyd yn oed os bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei wirio, dylai fod mesurau diogelu ar waith bob amser i amddiffyn plant, gan gynnwys sicrhau nad yw plentyn neu berson ifanc yn cael ei adael ar ei ben ei hun gydag un gweithiwr.

Mae llawer o ffynonellau gwybodaeth am ddiogelu mewn digwyddiadau, gan gynnwys y canlynol: