Yswiriant
Rhai awgrymiadau ar yswiriant ar gyfer digwyddiadau yng Nghymru gan Gyngor Sir Powys.
Bydd angen Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus arnoch ar gyfer eich digwyddiad ac ac yswiriant Cyflogwyr (DS: Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ystyried gwirfoddolwyr yn weithwyr cyflogedig). Efallai y byddwch hefyd yn dewis yswirio rhag tywydd gwael.
Ar gyfer mudiadau gwirfoddol, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn argymell Keegan-Pennykid fel brocer yswiriant. Fel arall, mae yna lawer o gwmnïau yswiriant digwyddiadau, ac mae’n werth gofyn i drefnwyr digwyddiadau sefydledig yn eich ardal am argymhellion.
Cofiwch ddarllen yr holl brint mân ar unrhyw bolisi a gynigir i chi a sicrhewch fod eich clawr yn briodol i’ch digwyddiad.