Diogelwch Tân ac Awyr

Gwybodaeth benodol am ddiogelwch ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys coelcerthi, tân gwyllt, dronau, barcutiaid, sioeau golau, ac ati yng Nghymru, gan Gyngor Sir Powys.

Tân gwyllt a choelcerthi

Cwmni tân gwyllt ag enw da, proffesiynol yw’r dewis mwyaf diogel. Argymhellir eich bod yn sicrhau bod y canllawiau a’r rheoliadau diogelwch diweddaraf ar gael o’r safleoedd canlynol:

Sicrhewch fod cymdogion yn gwybod ymlaen llaw am unrhyw dân gwyllt neu goelcerth. Dylech hefyd roi gwybod i ffermwyr cyfagos yn ogystal â’r Awdurdod Hedfan Sifil, a’r RNLI a gwylwyr y glannau os yw’ch digwyddiad ger yr arfordir.

Awdurdod Hedfan Sifil – ynglŷn â dronau, tân gwyllt, barcutiaid, balŵns aer poeth, laserau ac ati

Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer hedfan sifil. Os ydych chi eisiau hedfan drôn, awyren fodel neu Gerbyd Awyr Di-griw bach yng Nghymru, rhaid i chi fod wedi cofrestru fel gweithredwr gyda nhw ac mae ganddyn nhw ganllawiau ar yr holl reoliadau diogelwch.

Cofrestru i hedfan drôn neu awyren fodel (Saesneg)

Efallai y bydd angen i chi gynghori’r Awdurdod Hedfan Sifil hefyd os byddwch yn trefnu sioe laser, tân gwyllt neu unrhyw weithgaredd arall a allai fod yn risg i awyrennau a’u criw.

Goleuadau laser awyr agored a thân gwyllt (Saesneg)

Noder: Mae rhyddhau llusernau awyr wedi’u gwahardd yng Nghymru ac mae rhyddhau balŵns yn amhoblogaidd gyda sefydliadau amgylcheddol a lles anifeiliaid.

Os ydych yn bwriadu cynnal gŵyl barcud, dim ond os bydd eich barcud yn hedfan dros 60 metr neu’n agos at faes awyr y mae angen ichi roi gwybod i’r Awdurdod Hedfan Sifil, ond mae canllawiau diogelwch defnyddiol ar wefan The Kite Society (Saesneg).