Cau ffyrdd ac arwyddion

Gwybodaeth benodol am gau ffyrdd ac arwyddion ar gyfer digwyddiadau ym Mhowys, gan Gyngor Sir Powys.

Ar gyfer rhai digwyddiadau – parti stryd neu barêd carnifal neu ras ffordd er enghraifft – efallai y bydd angen i chi wneud cais i’r cyngor am Orchymyn Cau Ffordd Dros Dro neu Orchymyn Cyfyngu Traffig Dros Dro. Bydd cost am hyn. Mae angen i chi ganiatáu o leiaf 6 mis ar gyfer y broses hon.

Bydd y tîm Priffyrdd Cyngor Sir Powys yn eich cynghori ar yr arwyddion angenrheidiol i gau’r ffyrdd a sut i hysbysu’r cyhoedd, trafnidiaeth gyhoeddus a’r gwasanaethau brys.

Gwneud cais i gau ffordd – Powys

Arwyddion

Mae angen i bobl ddod o hyd i ddigwyddiadau yn hawdd, felly ystyriwch pa fapiau/dolenni rydych chi’n eu rhoi ar eich gwefan a gwybod bod arwyddion cyfeiriadol clir yn bwysig. Bydd angen i chi gysylltu â’r tîm priffyrdd ym Mhowys i gael gwybod pa arwyddion y gellir eu gosod ac ymhle, gan gynnwys baneri hyrwyddo.

Manylion cyswllt Powys:

Gallwch hefyd wirio canllaw’r Adran Drafnidiaeth, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Cofiwch, ar gyfer Cymru, bod rhaid i’r arwyddion fod yn ddwyieithog gyda’r testun Cymraeg ar y brig.

Os ydych yn disgwyl i bobl yrru i’ch digwyddiad a bod gennych chi ddigon o le parcio, efallai yr hoffech ddefnyddio’r AA i ddarparu arwyddion cyfeirio.