Gwneud cais am eitem nad yw mewn stoc

Os nad yw’r eitem rydych ei heisiau mewn stoc, mae gennym wasanaeth ceisiadau am lyfrau, erthyglau cyfnodolion, sgorau cerddoriaeth a setiau chwarae.

Sylwch fod hwn yn wasanaeth y codir tâl amdano – rhestrir y taliadau isod.

Llyfrau

Os nad yw’r llyfr rydych chi’n chwilio amdano yng nghatalog y llyfrgell, gallwn geisio ei gael i chi trwy un ai brynu copi i’w ychwanegu at ein casgliad, neu ei fenthyg o lyfrgell arall yn y DU neu’r Llyfrgell Brydeinig. Rydym yn codi £10.00 am y gwasanaeth hwn (nid oes tâl os na allwn gael yr eitem, neu os rydym yn ei brynu i’n stoc ni). I archebu llyfr, llenwch y ffurflen hon.

Erthyglau Cylchgronau

Gallwn gael copïau o erthyglau cyfnodolion o Ganolfan Cyflenwi Dogfennau’r Llyfrgell Brydeinig. Codir tâl o £10.00 am y gwasanaeth hwn. I wneud cais am erthygl mewn cyfnodolyn, llenwch y ffurflen hon..

Setiau cerddoriaeth a setiau chwarae

Mae Setiau Cerddoriaeth a Setiau Chwarae yn cael eu prisio yn ôl natur a maint y set, a chodir isafswm o £30.00 amdanynt. I gael gwybod mwy am y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni yn library@powys.gov.uk.

Pam fod rhaid talu i fenthyg eitemau i mi o lyfrgell arall yn y DU?

Mae’n rhaid i’r gwasanaeth llyfrgell dalu i fenthyg eitemau o lyfrgelloedd eraill i chi, neu i ofyn am erthyglau cyfnodolion. Yn ogystal, mae costau dosbarthu i ddychwelyd eitemau i’r llyfrgell sy’n cyflenwi’r eitem, a gallai’r rhain fod yn eithaf sylweddol yn achos eitemau gwerthfawr neu drwm. Gallai hefyd gymryd cryn dipyn o amser staff i ddod o hyd i lyfrgell sy’n gallu cyflenwi’r eitemau hyn i chi ac mae’r ffi a godwn yn gyfraniad at y costau hynny.