Agored Lefel 2 Uned Rhifau a Chyfrifiadau
Disgrifiad y Cwrs:
- Meithrin a datblygu hyder mewn sgiliau Mathemateg
- Gwella eich sgiliau rhifedd
- Adnoddau diddorol sy’n addas i bob lefel gallu Mathemateg
- Opsiwn i ennill uned achrededig Lefel 2 Agored sef llyfr gwaith a gwblhawyd yn eich gwersi
Yn y cwrs hwn, byddwch chi’n:
- Deall y gwahanol fathau o rifau a phatrymau
- Deall cywirdeb amcangyfrifon
- Gallu defnyddio ffracsiynau, degolion, canrannau a chyfartaleddau
- Deall a defnyddio indecsau a ffurf safonol
- Gallu gwneud cyfrifiadau gydag a heb ddefnyddio cyfrifiannell wyddonol
Mae’r cwrs yn cynnwys 4 gwers ar y dyddiadau canlynol:
- Gwers 1 – Dydd Mawrth 3ydd Rhagfyr 5.30yh-7.30yh
- Gwers 2 – Dydd Mercher 4ydd Rhagfyr 5.30yh-7.30yh
- Gwers 3 – Dydd Mawrth 10fed Rhagfyr5.30yh-7.30yh
- Gwers 4 – Dydd Mercher 11eg Rhagfyr 5.30yh-7.30yh
Bydd yr holl wersi yn cael eu cyflwyno ar-lein lle gallwch ymuno o ddyfais electronig o’ch cartref.
I gofrestru, ewch i https://forms.office.com/e/3yxgGdEbz2
Oes gennych chi gwestiwn? E-bost niferifyny@powys.gov.uk