Hyfforddiant Marchnata Digidol am ddim i bobl greadigol Powys

21 Tach 2024

Mae’r Nadolig yn dod, ac fel ein rhodd i chi, rydym yn cynnig hyfforddiant marchnata digidol am ddim ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr i helpu sefydliadau creadigol a chelfyddydol llawrydd i wella eu presenoldeb ar-lein. Bydd y gweithdy hefyd yn cyflwyno ein calendr Beth sy’ Mlaen – llwyfan digwyddiadau rhyngweithiol hollol newydd ar gyfer y sectorau celfyddydol, diwylliant, dysgu a threftadaeth ym Mhowys:

Gweithdai Marchnata Digidol

Ymunwch â’n gweithdy i ddysgu strategaeth cynnwys, gwneud y mwyaf o beiriannau chwilio, ysgrifennu ar gyfer y we, awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, a mwy. Dewiswch o sesiynau rhithwir neu bersonol:

20/11/24 – 10–4.30, wyneb yn wyneb, Celf Canol Cymru, Caersws, Powys, SY17 5RE

27/11/24 – 10–12 am (ar-lein)

28/11/24 – 2–4 pm (ar-lein)

4/12/24 – 10–4.30 wyneb yn wyneb, The Globe, Y Gelli Gandryll, Stryd Casnewydd, Y Gelli Gandryll, Henffordd, HR3 5BG

5/12/24 – 2–4 pm (ar-lein)

12/12/24 – 2–4 pm (ar-lein)

13/12/24 – 10–4.30, The Lost Arc, The Old Drill Hall, Stryd y Bont, Rhaeadr Gwy, LD6 5AG

Bydd y cofrestru’n cau 1 diwrnod cyn pob digwyddiad. Cofrestrwch yma: https://forms.office.com/e/5Fia0SH1xm

Cymryd rhan. Codi eich proffil. Beth sy’ Mlaen yw eich llwyfan chi ar gyfer digwyddiadau Powys!