Mae Gwasanaeth Llyfrgell Powys yn lansio darparwr e-gylchgrawn newydd, PressReader, gan ddod â gwell mynediad i filoedd o gylchgronau digidol a phapurau newydd.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Powys yn falch o gyhoeddi lansiad PressReader, platfform digidol newydd sy’n cynnig mynediad am ddim i ddetholiad helaeth o eGylchgronau ac eBapurau Newydd, sydd ar gael i holl aelodau llyfrgell Powys. Gan ddisodli’r darparwr blaenorol, Libby, daw PressReader ag ystod ehangach o deitlau, megis National Geographic, Good Housekeeping, The Guardian a The Daily Mail, ynghyd â nodweddion arloesol i wella’r profiad darllen.
Gyda PressReader, bydd defnyddwyr y llyfrgell yn elwa o offer hygyrchedd newydd, gan gynnwys porthiant newyddion pwrpasol, arddweud erthyglau, a chyfieithu yn y fan a’r lle, gan ei gwneud hi’n haws i gadw’n wybodus ac yn ddifyr. Bydd staff Llyfrgell Powys wrth law i ddarparu cefnogaeth a demos o’r platfform o fewn canghennau llyfrgell, yn ogystal â chyhoeddi taflenni cymorth ar wefan newydd y llyfrgell.
Rhannodd y Swyddog Digidol Tilly Boscott-Moses ei brwdfrydedd dros y gwasanaeth newydd, gan ddweud, “Rydym i gyd yn gyffrous iawn am lansiad PressReader – gyda’i hygyrchedd a’i nodweddion ymchwil rhagorol, mae’n sicr o gyffroi ein benthycwyr hefyd.”
Mae’r gwasanaeth uwchraddio hwn yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio gyda cherdyn llyfrgell ym Mhowys, a gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael mynediad i PressReader ddarganfod y casgliad helaeth o eGylchgronau ac eBapurau Newydd trwy ymuno â’r llyfrgell ar-lein.
Yn barod i ddechrau? Cliciwch yma i gael mynediad i PressReader a mewngofnodi gan ddefnyddio’r opsiwn ‘Llyfrgelloedd a Grwpiau’ – mae mor hawdd â hynny!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Llyfrgell Powys yn library@powys.gov.uk.