Bydd cyfle cyffrous i rieni a gofalwyr ym Mhowys fuddsoddi yn eu dyfodol, ac ennill cymhwyster Mathemateg, ym mis Tachwedd eleni, yn ôl y cyngor sir.
Mae’r cwrs arloesol ar-lein, sy’n cynnig y cyfle i ennill cymhwyster Mathemateg Lefe 2 mewn dim ond pedair wythnos, yn rhad ac am ddim, diolch i Nifer i Fyny, prosiect gan StoriPowys, sy’n anelu at hybu hyder rhifedd ledled y sir.
Ers Mis Medi 2023, mae dros 300 o oedolion wedi cymryd rhan mewn cyrsiau mathemateg ffurfiol a gweithdai a gweithgareddau rhifedd anffurfiol, ar-lein ac mewn llyfrgelloedd ledled Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: “Mae Nifer i Fyny yn gyfle gwych i rieni a gofalwyr ym Mhowys uwchsgilio a magu hyder mewn Mathemateg heb y pwysau o fod mewn ystafell ddosbarth draddodiadol.
“Drwy ddarparu’r cwrs hwn am ddim a’i wneud yn ddigon hygyrch, rydym yn grymuso teuluoedd, yn agor cyfleoedd gyrfa newydd, ac yn meithrin cymuned fwy medrus a chadarn.”
Wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer oedolion prysur, mae Nifer i Fyny yn darparu dull hyblyg o ddysgu drwy gyfres o sesiynau dwy awr gyda’r nos, wedi’u cynllunio i gyd-fynd â gofynion bywyd bob dydd, gwaith ac ymrwymiadau teuluol.
Dan arweiniad tiwtor profiadol a chyfeillgar, mae’r cwrs yn creu amgylchedd cefnogol, di-straen lle gall dysgwyr fagu hyder mewn Mathemateg.
Dywedodd Mair Dafydd, Uwch Lyfrgellydd – Datblygu Llythrennedd a Dysgu, StoriPowys: “Mae llyfrgelloedd wedi bod yn ymwneud â mwy na llyfrau yn unig erioed. Maent yn ganolfannau ar gyfer dysgu a chyfle.
“Mae Nifer i Fyny yn grymuso rhieni a gofalwyr i fuddsoddi ynddynt eu hunain, ac rydym yn falch bod y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.”
Manylion y Cwrs
Dyddiadau: Dydd Mercher, 6, 13, 20 & 27 2024
Hyd: 4 wythnos
Amser: 6:30pm – 8:30pm
Cost: Am ddim i bob rhiant a gofalwr sy’n byw ym Mhowys heb TGAU mewn Mathemateg
Cymhwyster: Sgiliau Hanfodol Mathemateg Lefel 2
I gofrestru ar gyfer y cwrs Nifer i Fyny, ewch i: https://forms.office.com/e/6Kz9D0EyqD
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.storipowys.org.uk/number-up neu e-bostwych numberup@powys.gov.uk