Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’r cyhoedd, edrychwch ar yr hyn sydd ar gael!
Nid yw pob un o’r gwasanaethau isod ar gael ym mhob llyfrgell.
Gofynnwch i staff y llyfrgell am fanylion –
cael manylion eich cangen leol yma –
https://www.storipowys.org.uk/find-a-library
Talu Treth y Cyngor, Rhent, Anfonebau
Talu eich Treth y Cyngor/Rhent/Anfonebau gyda cherdyn debyd neu gerdyn. Dewch a’ch manylion talu, gan gynnwys cyfeirnod. Gallwch hefyd dalu ar-lein eich hun gan ddefnyddio tudalen gwe Taliadau Ar-lein y Cyngor.
Gwneud Cais am Fudd-dal Tai
Cyfle i gael sganio a dilysu eich prif ddogfennau ar gyfer eich cais am Fudd-dal Tai.
Gwneud cais am Fathodyn Glas
Defnyddiwch ein ffôn gwasanaethau cwsmer, lle mae ar gael, i wneud cais am Fathodyn Glas a gallwn wedyn sganio a dilysu eich dogfennau.
Mynediad i Wasanaethau’r Cyngor
Cael mynediad dros y ffon ac ar-lein i wasanaethau’r cyngor
Pàs Bws Ar-lein
Gallwn helpu i lenwi ffurflen gais ar-lein am bas bws, gan gynnwys atodi dogfennau. Ar adegau prysur, efallai bydd angen trefnu apwyntiad. Mae gennym gamera gwe i dynnu eich llun.