Mae’r cwrs nesaf yn dechrau ddydd Mercher 17 Ebrill ac yn para am 10 wythnos. Mae’r cynnwys wedi’i gynllunio i gynnwys sgiliau rhifedd sydd â’r bwriad i’ch cynorthwyo bob dydd yn ogystal â helpu i gefnogi eich plant yn yr ysgol gyda’u gwaith cartref a’u paratoi ar gyfer eu hasesiadau.
Mae’r sesiynau i gyd ar-lein, a byddant yn cael eu cyflwyno gan ein harbenigwr ddwywaith yr wythnos (bydd yr un cynnwys yn cael ei ailadrodd ar draws y sesiynau ond wedi’i deilwra i’r rhai fydd ar y cwrs bob tro). Mae’r amseroedd fel a ganlyn:-
Dydd Mercher 13:00 – 14:00
Dydd Mercher 19:00 – 20:00
Os hoffech gymryd rhan ar y cwrs AM DDIM hwn, cofrestrwch yma: https://forms.office.com/e/MfUWeEzuPp
Yna byddwn yn anfon y dolenni atoch i ymuno â ni yn wythnosol.