Grant Darllen yn Well ar gyfer Llyfrgelloedd Powys

8 Maw 2024

Mae Llyfrgelloedd Powys wedi derbyn £1000 oddi wrth Lywodraeth Cymru i gynnal digwyddiadau mewn llyfrgelloedd i hyrwyddo cynlluniau Darllen yn Well. Mae pedwar cynllun Darllen yn Well yn cael eu darparu yng Nghymru, sef Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl, Darllen yn Well ar Gyfer Dementia, Darllen yn Well i Blant a Darllen yn Well i’r Arddegau. Mae’r cynlluniau yn argymell darllen i’ch helpu chi i ddeall a rheoli eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Mae’r llyfrau ar gael yn eich llyfrgell leol ac maen nhw am ddim i’w benthyg!

Mae’r digwyddiadau canlynol wedi cael eu trefnu i hyrwyddo cynlluniau Darllen yn Well:

Y Fferyllfa Farddoniaeth yn dod i Lyfrgelloedd Powys
Drwy gydol mis Mawrth, gall darllenwyr alw heibio amrywiol lyfrgelloedd ledled Powys i gael presgripsiwn iachau go wahanol. Bydd Rhiannon Hooson, bardd a fferyll-fardd ar gael i ddosbarthu Barddoniaeth ar Bresgripsiwn, sef therapi amgen ar gyfer eich anhwylderau emosiynol. Fel arfer dim ond yn yr unig Fferyllfa Farddoniaeth yn y DU yn Bishop’s Castle y dewch chi o hyd i hyn. Mae apwyntiadau Barddoniaeth ar Bresgripsiwn yn cael eu cynnig ar y dyddiadau isod.  Mae pob sesiwn yn para tua hanner awr, ac yn ystod y sesiwn byddwch yn sgwrsio gyda’r Fferyll-fardd ac yna bydd cerdd addas yn cael ei rhagnodi i chi – a chyfarwyddiadau am sut i gael eich iachâu gan y gerdd.

Bydd y sesiynau hyn yn digwydd yn y llyfrgelloedd canlynol:

  • Dydd Gwener  1:

Llanfyllin 1.30pm

  • Dydd Gwener  8:

Y Drenewydd 10-12.30

Tref-y-Clawdd 2-4.30pm

  • Dydd Gwener  15:

y Gaer 10am

  • Dydd Gwener  22:

Rhaeadr 10am

Mae’r cerddor a’r darlunydd lleol, Liam Rickard yn mynd i redeg cyfres o weithdai Creu Comigau i bobl ifanc yn eu harddegau yn Llyfrgell Machynlleth. Bydd y sesiynau ar 12, 19 a 26 o 5.30-6.30pm

Mae digwyddiad i blant hefyd yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Llandrindod ar 27 10-11.30am. Dewch i gwrdd â’r awdur a’r arlunydd Anwen Nicholls a Ken Rees: Dewch i ymuno ag Anwen a Ken am sesiwn stori a darlun sy’n seiliedig ar eu llyfrau poblogaidd am hyfforddi’r ffermwr.