Gwasanaethau’r Cyngor
Dysgwch sut i gael mynediad at lawer o wahanol wasanaethau Cyngor Powys yn eich llyfrgell leol.
Mae eich llyfrgell leol hefyd yn darparu ystod o wasanaethau’r Cyngor.
Nid yw pob un o’r gwasanaethau isod ar gael ym mhob llyfrgell. Gofynnwch i staff y llyfrgell am fanylion – cael manylion eich cangen leol yma.
Gallwch wneud y canlynol …
Talu Treth y Cyngor, Rhent, Anfonebau
Talu eich Treth y Cyngor/Rhent/Anfonebau gyda cherdyn debyd neu gerdyn.
Dewch a’ch manylion talu, gan gynnwys cyfeirnod. Gallwch hefyd dalu ar-lein eich hun gan ddefnyddio tudalen gwe Taliadau Ar-lein y Cyngor.
Gwneud cais am Fathodyn Glas
Defnyddiwch ein ffôn gwasanaethau cwsmer, lle mae ar gael, i wneud cais am Fathodyn Glas a gallwn wedyn sganio a dilysu eich dogfennau.
Pàs Bws Ar-lein
Gallwn helpu i lenwi ffurflen gais ar-lein am bas bws, gan gynnwys atodi dogfennau.
Ar adegau prysur, efallai bydd angen trefnu apwyntiad. Mae gennym gamera gwe i dynnu eich llun.
Gwneud Cais am Fudd-dal Tai
Cyfle i gael sganio a dilysu eich prif ddogfennau ar gyfer eich cais am Fudd-dal Tai.
Mynediad i Wasanaethau’r Cyngor
Cael mynediad dros y ffon ac ar-lein i wasanaethau’r cyngor.