Cefnogaeth i Ddarllenwyr Dyslecsig a Darllenwyr Amharod

Mae Dyslecsia’n gallu ei gwneud yn anoddach i fwynhau llyfr da!

Rydym eisiau helpu pawb i fwynhau llyfrau a storiau, ac mae gennym amrywiaeth o fformatau i’ch helpu chi fwynhau eich ffordd chi o ddarllen.

Llyfrau Deall Dyslecsia gan Barrington Stoke

Mae Barrington Stoke yn cyhoeddi llyfrau deall-dyslecsia i blant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc.

Mae’r llyfrau wedi’u tintio i leihau golau llachar a defnyddio ffont a llinellu gofalus fel nad yw’r dudalen yn rhy lawn.

Maent yn cael eu golygu’n ofalus gydag ysgrifennu byr a chlir sy’n cyfateb ag oedran y darllenydd ac nid eu lefel darllen.

Gydag awduron poblogaidd o fri, mae Barrington Stoke yn cyhoeddi llyfrau poblogaidd iawn i helpu pob plentyn ryddhau awydd i ddarllen.

Dod o hyd i ac archebu llyfrau Barrington Stoke ar gatalog y llyfrgell yma.

Llyfrau Llafar

Gall aelodau’r llyfrgell lwytho llyfrau llafar am ddim o Borrowbox.

Gyda bron i 10,000 o lyfrau llafar i bawb o bob oed, rydych yn siwr o ddod o hyd i rywbeth i’w fwynhau.

Mae ein llyfrau llafar yn boblogaidd gyda phawb, ond os ydych chi’n rhiant i ddarllenydd anfoddog neu ddyslecsig, mae’n dda gwybod fod llyfrau llafar yn rhyddhau’r un buddion â llyfrau gweledol – yn cynyddu geirfa a sgiliau darllen a deall a chaniatau i’ch plentyn fwynhau’r un llyfrau ac awduron gwych â’u ffrindiau.

Os oes gennych ffôn clyfar neu lechen, gallwch lwytho ap Borrowbox neu ddechrau pori gwefan Borrowbox yma.

Gallwch hefyd fenthyg dewis da o lyfrau llafar ar CD o’ch llyfrgell gangen.

eLyfrau

Gydag e-lyfrau gallwch arbrofi gyda’r ffont, maint y testun a’r lliw cefndir i’w wneud yn haws i chi ddarllen.

Gall aelodau’r llyfrgell lwytho e-lyfrau am ddim o Borrowbox.

Gallwch lwytho ap Borrowbox ar ffôn clyfar neu lefen, neu ddechrau pori gwefan Borrowbox yma.

Yn newydd i Borrowbox? Bydd angen i chi fod yn aelod o Lyfrgelloedd Powys a byddwch angen eich PIN llyfrgell i logio mlaen.

Not a member yet?

Nofelau graffig

Mae gan y llyfrgell ddewis o nofelau graffig i bawb o bob oed. Nid oes gan nofelau graffig gymaint o destun â llyfrau traddodiadol – felly maen nhw’n haws i’w darllen ond gyda chynnwys sy’n briodol i oedran.

Dod o hyd i ac archebu nofelau graffig ar gatalog y llyfrgell.

Storïau Sydyn

Beth am ddarganfod llawenydd darllen gyda Storïau Sydyn – llyfrau byrion a straeon gwych gan awduron llwyddiannus.

Mae Storïau Sydyn wedi’u hysgrifennu mewn arddull hygyrch a hawdd ei darllen. Maen nhw’n wych i oedolion sydd erioed wedi mwynhau darllen, yn ogystal â phobl sydd heb lawer o amser!

 

Darganfod a chadw Storïau Sydyn ar gatalog y llyfrgell (dolen yn cynnwys eLyfrau a llyfrau ffisegol).