Defnyddio catalog y llyfrgell

Sut i fewngofnodi, chwilio, gwneud cais, adnewyddu

Sut ydw i’n logio mewn i gatalog y llyfrgell neu’r ap?

I logio mewn, teipiwch rif cerdyn y llyfrgell cofiwch hepgor unrhyw fylchau a’ch PIN.

 

Beth yw’r PIN?

Os nad ydych wedi dewis PIN eto, un ai rhowch gynnig ar y gair ‘changeme’ neu 4 rhif olaf eich rhif ffôn.

Os na fydd rhain yn gweithio, gallwch ddefnyddio’r ddolen ‘Wedi anghofio rhif PIN’ dan y blwch logio mewn – bydd hyn yn anfon e-bost i’r cyfeiriad sydd gennym ar eich cyfer chi. Cofiwch edrych yn eich ffolder post sothach os na fydd yr e-bost yn cyrraedd. Os nad oes gennym gyfeiriad e-bost i chi, cysylltwch â ni i ddiweddaru eich cofnod.

Dal i fethu logio mlaen?

E-bostiwch ni ar library@powys.gov.uk, ffoniwch y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ar 01874 612394, neu cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Chwilio

Porwch drwy ein catalog o lyfrau, llyfrau llafar a DVDs – gyda thua 170,000 o eitemau i ddewis ohonynt, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth yr hoffech ei fenthyca.

Gallwch ddod o hyd i lyfrau a gwneud cais amdanynt drwy ein catalog ar-lein.

Gofyn am lyfr (‘Gwneud Archeb’)

Gallwch archebu eitemau oddi ar gatalog y llyfrgell ac os nad yw yn eich llyfrgell leol, fe wnawn ei anfon yno i chi ei gasglu.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.

Yn syml, dewch o hyd i’r eitem ry’ch chi am ei benthyg a chliciwch ar ‘Cadw Llyfr(au)’. Mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN (os yw’n gofyn amdano), ac yna dewiswch leoliad casglu.

Fe wnawn gysylltu â chi pan fydd eich eitem yn barod i’w gasglu, dros e-bost, neges destun neu’r ffôn.

Methu dod o hyd iddo ar y catalog?

Gallwch archebu llyfrau sydd ddim mewn stoc, yn ogystal ag erthyglau cylchgronau, sgôr gerddoriaeth a setiau chwarae, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gael copi i chi drwy’r system fenthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd. Rhaid talu am y gwasanaeth hwn.

Neu, gallwch awgrymu llyfrau i ni eu prynu (gwasanaeth am ddim).

Adnewyddu eich benthyciadau

Gallwch weld pa eitemau sydd gennych ar fenthyg yn y Catalog ar-lein – cliciwch Fy Nghyfrif a mewngofnodi gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN (os gofynnir amdano) – ac adnewydda hwynt yno.

Gallwn anfon negeseuon e-bost neu negeseuon testun i’ch atgoffa pan mae’n amser dychwelyd eich eitemau.

Catalog Ar-lein

Chwilio, gwneud cais ac adnewyddu eich benthyciadau ar-lein drwy’r catalog ar-lein.

 

Cofrestrwch ar gyfer negeseuon atgoffa e-bost neu destun.

Gallwn roi gwybod i chi drwy neges e-bost neu neges destun pan mae’n amser dychwelyd eich eitemau ar fenthyg, neu pan fydd eich eitemau ar gadw yn barod i’w casglu.