Gwasanaeth copïo

Os ydych angen copiau o ddogfennau o’n harchifau ar gyfer gwaith ymchwil preifat, gallwch eu harchebu o Archifdy Powys.

Os ydych angen copiau o ddogfennau o’n harchifau ar gyfer gwaith ymchwil preifat, gallwch eu harchebu o Archifdy Powys. Efallai ni fyddwn yn gallu delio â cheisiadau am nifer fawr o ddogfennau, felly os ydych am gael nifer o ddogfennau, mae croeso i chi gysylltu â ni i weld os gallwn helpu.

Archebu copiau

Llenwch y ffurflen gais am gopïo isod.

Ni fydd rhaid i chi anfon taliad gyda’r ffurflen byddwn yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi dalu cyn i ni anfon y copiau atoch.

Gallwch dalu gydag arian parod, siec neu trwy ein cyfleuster talu ar-lein.

Trwyddedau

Os hoffech chi dynnu lluniau camera o ddogfennau yn ein hystafell chwilio, bydd angen i chi brynu trwydded ffotograffiaeth a fydd yn caniatáu i chi dynnu lluniau at ddibenion ymchwil preifat.

Gallwch dalu gydag arian parod, siec neu trwy ein cyfleuster talu ar-lein.

Noder ni chanlateir ffotograffiaeth oni bai bod trwydded wedi’i phrynu.

Nid yw’r drwydded ffotograffiaeth yn caniatáu i chi atgynhyrchu, cyhoeddi nac arddangos ffotograffau digidol. I gael caniatâd i wneud hynny, lawrlwythwch y ffurflen ganiatâd isod a’i hanfon at y Prif Swyddog Amgueddfeydd ac Archifau yn Archifau Powys. Byddwn yn rhoi gwybod os gallwn roi caniatâd i chi, a byddwn yn rhoi gwybod i chi faint y bydd angen i chi dalu.