Adnoddau ymchwil ar-lein

Adnoddau ymchwil

Os ydych yn ymchwilio i wybodaeth, neu am ddysgu rhywbeth newydd, efallai y bydd y gwefannau isod o ddiddordeb hefyd. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o’r llyfrgell i ddefnyddio’r rhain.

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad gwych o adnoddau i’w harchwilio ar-lein.

Ewch i dudalen adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol i archwilio ei hadnoddau digidol. Bydd y rhain yn cynnwys Papurau Newydd Cymru Ar-lein (15 miliwn o erthyglau o 1804 i 1919), Y Bywgraffiadur Cymreig, Lleoedd Cymru, a llawer mwy.

Ewch i’r tudalen tanysgrifiadau ac adnoddau eraill i gael mynediad am ddim i ystod o wefannau tanysgrifio, gan gynnwys archifau Papurau Newydd ar-lein, Geiriadur Saesneg Rhydychen ar-lein, a Bywgraffiadur Cenedlaethol Rhydychen. Fe fydd arnoch chi angen tocyn darllenwyr y Llyfrgell Genedlaethol i gael mynediad at yr adnoddau hyn, ond os ydych chi’n byw yng Nghymru gallwch gofrestru i gael tocyn darllenwyr ar-lein yma.

 

Access to Research – ar gael yn llawn o gyfrifiaduron ein llyfrgelloedd

Mae Access to Research yn rhoi mynediad i fwy na 30 miliwn o erthyglau ymchwil academaidd, sydd ar gael am ddim trwy lyfrgelloedd cyhoeddus ledled y DU.

Nid yw erthyglau llawn ond ar gael o gyfrifiaduron y llyfrgell. Fodd bynnag, gallwch chwilio crynodebau’r erthyglau gartref, ac yna dod i mewn i unrhyw un o’n llyfrgelloedd i’w gweld yn llawn.

Crëwyd Access to Research Research i agor mynediad i ymchwil a ariennir yn gyhoeddus. Mae’n adnodd gwych i fyfyrwyr ac ymchwilwyr annibynnol, ond gall pob aelod o’r cyhoedd ei ddefnyddio hefyd. Mae’n trin a thrafod y pynciau canlynol: y gwyddorau, celfyddyd, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a llawer mwy. Cewch weld rhestr o’r cyhoeddwyr sy’n cymryd rhan yma, ac mae rhestr chwilio o’r cyfnodolion sydd ar gael yma.

Dechrau Chwilio Access to Research

 

AskSARA

Mae AskSara – sydd ar gael gan Gyngor Sir Powys – yn wefan hawdd ei defnyddio gyda’r nod o helpu i wneud gweithgareddau beunyddiol yn haws drwy wella mynediad i amrywiaeth o gynnyrch hunanofal a thechnoleg glyfar.

Mae gwefan AskSara Powys yn gofyn ychydig o gwestiynau syml mewn ffordd ddienw. Mae’n defnyddio’r atebion i lunio adroddiad personol gyda chyngor arbenigol – wedi’i ysgrifennu gan therapyddion galwedigaethol – i helpu pobl â’u hanghenion. Mae’r safle wedi’i anelu at bobl hŷn, gofalwyr a phobl ag anableddau, yn ogystal â phlant.

 

OpenLearn

Gwasanaeth am ddim o’r Brifysgol Agored yw OpenLearn. Mae’n cynnig cyrsiau ar-lein byr am ddim ar amrywiaeth eang o bynciau

Chwiliwch dros 1000 o gyrsiau, gweithgareddau rhyngweithiol a fideos am ddim, a mwy!

Ewch yn syth i OpenLearn gan y Brifysgol Agored.