Treftadaeth Powys Ar-lein

Mae’r dudalen hon yn cysylltu i brosiectau digidol Archifau Powys a dderbyniodd arian grant ac a gwblhawyd rhai blynyddoedd yn ôl. Maent yn cynnwys delweddau o ddogfennau o’n casgliadau, ynghyd â thestun dehongli. Yn eu plith mae:

  • Prosiect Hanes Digidol Powys: Powys Oes Fictoria: Cafodd cynnwys y wefan hon i ysgolion cynradd ei roi ar-lein dros gyfnod o ddwy flynedd gan orffen ym mis Mawrth 2002
  • Powys: Diwrnod ym Mywyd: Mae’r prosiect hanes digidol arloesol hwn yn edrych ar fywyd ym Mhowys yn 1891, a’i gymharu â bywyd yn 2002
  • Chwech o gymunedau Powys ar-lein: Prosiect cynnar, 1998-1999 yn dangos hanes chwech o gymunedau ar draws Powys